Oedolion Egnïol

Teuluoedd

Ceir rhywbeth addas i bob oedran - yn blant bach a mawr!

PLYMIO!

Free SwimmingEwch â’r teulu cyfan i nofio a manteisiwch ar sesiynau Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer plant ym mhyllau nofio’r Awdurdodau Lleol yn ystod gwyliau’r ysgol.

Am dipyn o hwyl, anogwch y plant hyn i nofio gyda chi a gosodwch her neu ddwy, fel pwy all nofio ar hyd y pwll gyflymaf. Os oes gennych blant iau, cymerwch eich tro gyda’ch partner – neu ewch gyda mam neu dad arall sydd â phlant o oedran tebyg – i bawb allu cymryd ei dro i nofio ar hyd y pwll tra bo’r oedolion eraill yn cadw llygad ar y plant.

CERDDWN YMLAEN

Mae cerdded nid yn unig yn llosgi mwy na 150 o galorïau mewn 30 munud ond mae hefyd yn ffordd wych o dreulio amser pwysig gyda’ch partner a’ch plant tra’n cadw’n heini ac yn cael digon o awyr iach.

Rhowch fabanod a phlant bach mewn pramiau er mwyn gallu symud yn gynt ac anogwch y plant hyn i feicio ochr yn ochr â chi. Wrth gwrs, gyda’r rhai bach mewn pram a’r rhai hyn ar eu beic, does dim i’ch rhwystro rhag cyflymu eich camau a dechrau rhedeg, gan losgi hyd at 400 o galorïau yr awr!