18-40s
40’au:
Yn ôl y sôn, 40 yw’r 30 newydd! Dathlwch y blynyddoedd hyn ond peidiwch â meddwl am eiliad bod eich corff, wrth iddo aeddfedu, yn gweithio fel ag yr oedd ddegawd yn ôl! Efallai eich bod wedi setlo i fywyd sy’n cynnwys teulu neu yrfa, ac fe all eich gofal am bobl fod yn ymestyn i aelodau hyn y teulu neu wyrion a wyresau. 
Dyma pryd mae eich corff yn dechrau siarad gyda chi a phryd mae pobl yn dechrau teimlo effaith gronnol y cyfnod a aeth heibio yn eu bywyd.
Yr amcan yw ceisio atal y twchu canol oed ac ymarfer yn rheolaidd. Yn ystod eich 40au, mae eich corff yn tueddu i ddenu sawl problem o ran iechyd, a bydd y rhain yn gwaethygu os byddwch yn ennill pwysau. Maint eich wasg yw’r arwydd pwysicaf i ddynodi faint o risg ydych chi’n ei wynebu mewn perthynas â phwysau gwaed uchel a cholesterol uchel.
Ceisiwch gael gwared ar y teiar sbâr yna drwy gymryd rhan mewn ymarferion cardiofasgiwlar a chryfder rheolaidd am 30 munud bum gwaith yr wythnos. Os ydych yn cael problemau gyda’ch cymalau, osgowch ymarferion effaith uchel a allai achosi niwed. Mae’n oedran da i ddechrau cynnwys gweithgarwch lleddfu straen yn eich trefn wythnosol, fel ioga neu Pilates.
