Oedolion Egnïol

18-40s

30’au:

Boxercise

Dyddiau gorau eich bywyd! Rydych yn cyrraedd nodau i wella eich safon byw. Efallai eich bod yn dechrau teulu neu wedi priodi a chael plant ers sawl blwyddyn. Efallai fod gennych fwy o gyfrifoldebau yn y gwaith neu eich bod wedi penderfynu chwarae rhan allweddol yn eich cymuned. Waeth beth ydych yn ei wneud, mae’n bwysig eich bod yn gwneud amser i chi eich hun. Gall y cyfnod hwn fod yn un pleserus ac yn un llawn straen ar yr un pryd! Yn ystod y cyfnod hwn yn eich bywyd, mae eich metaboliaeth yn arafu a gall y newid hwn arwain at fwy o fraster ar y corff a llai o fás cyhyrau. Mae cyfuniad o ymarferion cardiofasgiwlar a dal pwysau rheolaidd yn allweddol er mwyn cadw’n iach felly beth am ddechrau edrych o ddifrif ar eich gweithgarwch a gweld pa mor egnïol ydych chi mewn gwirionedd ac – yn bwysicach na dim – pa mor egnïol allwch chi fod!

I gadw llygad manwl ar eich symudiadau, beth am fuddsoddi mewn pedometr a cheisio adeiladu’n raddol i gerdded y 10,000 o gamau y dydd a argymhellir. Dechreuwch ymarfer rhan uchaf y corff i wella dwysedd yr esgyrn ac, os nad oes gennych oriau i’w treulio yn y gym, rhowch DVD ymarfer yn eich peiriant gartref ac ymarfer o flaen y teledu. Rhowch gynnig ar sgipio, ewch i nofio neu, yn well fyth, cerddwch. Mae cynyddu pob math o weithgarwch yn ffordd dda o gymryd lle rhaglen ymarfer ffurfiol.