18-40s
20’au:
Mae gan bobl yn eu hugeiniau nodau a diddordebau penodol a fydd yn sail i’w bywyd fel oedolion.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ymarfer yn rheolaidd o gymorth i chi ddatblygu cryfder, dygnedd a hyblygrwydd sy’n anos i’w sicrhau wrth i chi fynd yn hyn. Mae astudiaethau wedi dangos hefyd bod raid i’n calon a’n hysgyfaint weithio’n galetach i gwblhau tasgau bob dydd – er nad ydych yn sylweddoli hynny efallai nes bod raid i chi redeg i ddal y bws neu wibio i fyny grisiau.
Bydd cyfuniad o ymarferion cardiofasgiwlar, i gadw eich calon a’ch ysgyfaint mewn siâp, ac ymarferion dal pwysau, i gefnogi’r esgyrn sy’n dal i ddatblygu, yn ddelfrydol. Dewiswch weithgareddau pleserus fel beicio, llafnrolio neu ymunwch â dosbarth dawns newydd fel nad yw ymarfer yn teimlo’n ormod o ddyletswydd. Mae’n syniad da ceisio hudo eich ffrindiau i ddechrau ymarfer gyda chi ar gyfer cymryd rhan mewn hanner marathon. Mae cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol o oed ifanc hefyd yn helpu i fireinio’r sgiliau cymdeithasol hynny sydd mor bwysig ac yn eich annog i ffurfio cysylltiadau gyda ffrindiau newydd, tebyg i chi.
