18-40s
Yn gyffredinol, mae gan bobl ifanc ar waelod y grwp oedran hwn ddigon o stamina ac mae’r corff yn gallu gwrthsefyll gweithgarwch egnïol amrywiol. Nid yw bwyd gwael, gweithio’n hwyr ac aros allan yn hwyr gyda’r nos, heb ymarfer yn rheolaidd, yn effeithio llawer ar y bobl ifanc hyn – wel, dim byd mwy na all moddion hen ffasiwn at effaith noson fawr neu ddôs o ibuprofen ei wella!
Fodd bynnag, mae’r hyn rydych chi yn ei wneud i’ch corff heddiw yn sicr o gael effaith arnoch yn nes ymlaen yn eich bywyd – yn enwedig os ydych yn tueddu i ddioddef o salwch arbennig, fel y clefyd siwgr a gordyndra. Nawr yw’r amser i ddechrau gosod y sylfeini ar gyfer y dyfodol drwy sefydlu ffyrdd o fyw iach!
Gall newidiadau yn eich bywyd, fel symud oddi cartref, dechrau mewn swydd newydd, gwneud ffrindiau a chysylltiadau busnes newydd neu addasu i ofynion priodas a bod yn rhiant arwain at straen ac iselder.
Ac mae i ymarfer corff sawl mantais nad ydynt, o angenrheidrwydd, yn gysylltiedig â’r manteision amlycaf, fel cadw’n heini a cholli pwysau. Ceir tystiolaeth gref i awgrymu bod ymarfer yn gallu helpu gyda phroblemau iechyd meddwl amrywiol, yn cynnwys iselder, pryder, teimladau negyddol a diffyg hyder.
Waeth beth yw eich oedran, mae ymarfer yn rheolaidd yn fantais a gall roi hwb i’ch hyder a sicrhau bywyd cymdeithasol iach.
