Clybiau Chwaraeon
Mae’r dyddiau o ffurfio llinell ar hyd wal y buarth chwarae ar gyfer ‘dewis timau’ wedi hen fynd. Neu dyna mae rhywun yn ei feddwl! Drwy ymuno â chlwb chwaraeon lleol, gallwch unwaith eto fwynhau’r atgof plentyndod hwnnw o gamu ar y cae chwarae i wynebu hen elynion mewn gornest chwaraeon dda.
Boed yn fadminton neu fowlio, saethyddiaeth neu athletau, mae clybiau chwaraeon yn cynnig cyfle gwych i bobl o bob oed a gallu roi cynnig ar weithgaredd newydd neu berffeithio’r sgiliau rhydlyd rheiny i fod yn berffaith.
A dydych chi ddim angen unrhyw wybodaeth na phrofiad blaenorol i ymuno chwaith. Mae rhai clybiau’n cynnig cyfleoedd hamdden a chyfleoedd gyda hyfforddiant. Mae dyddiau hwyl a sesiynau blasu’n ffordd dda o ennyn brwdfrydedd, gydag aelodau a darpar-aelodau’n cael rhoi cynnig ar yr hyn sydd ar gael.
Siaradwch gyda’ch ffrindiau, eich cymdogion a’ch cydweithwyr i ddarganfod beth yw eu diddordeb hwy ac i weld wedyn beth sy’n digwydd eisoes yn eich ardal. Bydd swyddog datblygu chwaraeon eich awdurdod lleol yn gallu dweud wrthych am y tîm rownderi neu bêl rwyd sy’n bodoli yn eich cymuned i chi gael ymuno ag ef. Os nad oes un, yna bydd gennych chi a’ch ffrindiau bopeth fyddwch ei angen i sefydlu eich clwb eich hun!
Gallai clwb fod mor anffurfiol â grwp o feicwyr neu loncwyr yn cyfarfod bob dydd Sul ar amser penodol i fynd allan i feicio neu loncian. Gallech hyd yn oed gymryd rhan neu greu eich cynghrair gymunedol eich hun a chwarae’n erbyn clybiau chwaraeon eraill. Mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd.
Edrychwch yng ngwefan eich awdurdod lleol am fanylion am y gwasanaethau sydd ar gael yn eich ardal neu edrychwch yng ngwefan y Clybiau Chwaraeon am gyngor ynghylch sut i sefydlu a rhedeg eich clwb chwaraeon eich hun.
