Llefydd Awyr Agored
Syrffio:
Nid dim ond gweithgarwch mewn lleoliadau trofannol yw hwn! Gall y rhai sydd am fod yn syrffwyr brofi’r dwr ar un o’r cannoedd o draethau ledled Cymru. Gyda siopau llogi syrffiau’n agor ledled arfordir Cymru drwy’r amser, beth am edrych ar yr amrywiaeth o wersi syrffio sydd ar gael yn yr ardal, neu ba offer chwaraeon dwr sydd ar gael i’w llogi.
Pêl foli:
Mae pêl foli’n hwyl garw ac yn ymarfer gwych i’r corff cyfan. Rhowch gynnig ar bêl foli ar y traeth am ychydig bach mwy o ymwrthedd!
Dringo:
Gweithgarwch gwych i’r teulu cyfan ac i bob lefel ffitrwydd, ac mae am ddim! Ewch am dro i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru am wybodaeth am lwybrau a digwyddiadau.
Marchogaeth Ceffylau:
Efallai y gwelwch bod pedair coes yn well na dwy! Hyd yn oed os ydych yn ddechreuwr llwyr, ceir cwrs ar eich cyfer. Mae cefn gwlad Cymru’n frith o stablau marchogaeth ceffylau sy’n cynnig gwersi i bobl o bob oed a gallu. Pa well ffordd o fwynhau tirlun hardd Cymru nag ar gefn ceffyl!
Hwylio a Gwyntsyrffio:
Os mai dwr sy’n mynd â’ch bryd, mae gwersi ar gael ar gyfer dechreuwyr mewn canolfannau chwaraeon dwr ledled Cymru.
Canwio:
Gall fod mor ysgafn neu eithafol ag y dymunwch. Mae’r rhan fwyaf o ganw-wyr yn mwynhau’r gamp er mwyn cael archwilio afonydd a llynnoedd y wlad. Mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd. Cynigir teithiau rhwyfo a chyrsiau gan ganolfannau gweithgarwch ledled y wlad ar gyfer pob oedran a gallu.
Sgïo Llethrau Sych:
Does dim rhaid mynd bob cam i’r Alpau i wisgo eich sgis a mynd amdani. Dydi sgïo ar lethrau sych ddim yn gamp ddrud iawn ac fe brofwch adrenalin rhyfeddol!
