Llefydd Awyr Agored
Beicio:
Fel cerdded, mae beicio’n weithgaredd ar garreg eich drws. Camwch allan drwy’r drws ffrynt gyda’r teulu wrth eich cynffon a mwynhewch ddarganfod gefn gwlad godidog Cymru. Os ydych yn teimlo fel mentro ychydig ymhellach, gallwch fynd ar hyd y llwybrau arfordirol a’r llwybrau beicio a darganfod popeth sydd gan Gymru i’w gynnig – golygfeydd hardd, parciau gwledig, llynnoedd, mynyddoedd ac arfordiroedd. Mae’r cyfan yn ei gwneud yn wlad fendigedig i’w theithio. Holwch yn eich ardal leol am ganolfan sy’n llogi beiciau ac ewch amdani!
Traethau:
Os ydych awydd cicio pêl gyda’ch ffrindiau neu eich teulu, mae hon yn ffordd wych o losgi calorïau – rhyw naw bob munud. Bydd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn caniatâu i chi ddod â’ch ci ar y traeth yn ystod misoedd y gaeaf a bydd rhedeg neu hyd yn oed gerdded ar dywod meddal yn gwneud i’ch coesau weithio’n galetach nag erioed. Mae’r gofod eang a geir ar draeth yn ei wneud yn lleoliad perffaith ar gyfer hedfan barcud hefyd, y barcud hwnnw sydd wedi bod yn cuddio yng nghefn y sied ers misoedd!
Ffrisbi:
Gweithgarwch gwyliau perffaith i lawer o bobl. Yn ymarfer popeth, yn cynnwys y coesau, y wasg, y breichiau a’r ysgwyddau, mae Ffrisbi’n ymarfer cyffredinol da a fydd yn llosgi ryw 6 chalori bob munud ar ddwysedd isel.
Snorcelu:
Gallwch fwynhau’r hyn sydd gan natur i’w gynnig i chi dan ddwr drwy snorcelu eich ffordd drwy ganol dyfroedd bas. Bydd digon i’w weld a byddwch yn llosgi ryw 6 chalori bob munud.
