Oedolion Egnïol

Llefydd Awyr Agored

Wrth ymarfer y tu allan, rydym yn gorfod goresgyn disgyrchiant, grymoedd adweithiol y ddaear a ffactorau amgylcheddol fel gwynt, gwres ac oerni, yn ogystal â newid mewn tirwedd. Oherwydd y newidiadau diddiwedd hyn a wynebir gan ein corff, mae’n rhaid iddo ddefnyddio mwy o gyhyrau na sydd angen wrth gymharu ag ymarfer y tu mewn yn y gym ac, o ganlyniad, defnyddir mwy o galorïau.

Tirwedd CymruFelly beth am dynnu llwch oddi ar eich beic a mynd am dro o amgylch eich pentref neu gael hyd i lwybrau difyr yn y parciau yn eich ardal. Hefyd, gallwch gerdded, rhedeg, sglefrolio neu ddringo. Fe all y rhai sy’n hoff o ddwr ddewis rhoi cynnig ar ganwio, rhwyfo, nofio neu gaiacio yn y llu o ganolfannau gweithgarwch awyr agored a geir ledled Cymru.

Yn lle mynd am yr un dro o amgylch y parc lleol, beth am gynnwys teithiau cerdded hirach ar hyd llwybrau natur neu arfordiroedd, sy’n cynnwys dringo i fyny elltydd a llethrau serth, trwy goedwigoedd a thros dwyni tywod i ychwanegu amrywiaeth at eich ymarfer.

Gyda’i thir agored eang a’i mynyddoedd ysgithrog, ceir cyfleoedd diddiwedd yn yr awyr agored yng Nghymru i ymarfer.

Cerdded:

Mae cefn gwlad Cymru’n llawn rhwydwaith o lwybrau troed a thraciau ac mae’r opsiynau’n ddiddiwedd. Bydd cerdded yn rheolaidd ac yn gyflym yn gwella lefel eich ffitrwydd corfforol a hefyd yn eich gwneud yn fwy effro yn feddyliol, ac yn hapusach yn emosiynol. Gallwch gerdded o le i le gyda’ch bag ar eich cefn, neu aros mewn pentref am wythnos neu fwy, gan fwynhau’r ardal o amgylch drwy fynd ar deithiau cerdded dyddiol.