Llefydd Awyr Agored
Os ydych yn mwynhau’r awyr agored, y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw camu allan drwy’ch drws ffrynt a dechrau ymarfer. 
Yn gyfoeth o fynyddoedd gwyllt, bryniau hardd, parciau perffaith, caeau eang a thraethau bendigedig, mae gan Gymru ddigon i’w gynnig i’r rhai sydd eisiau bod yn egnïol yn yr awyr agored yn y wlad hon, gan fwynhau wrth deimlo’r haul ar eich croen a chael digon o awyr iach.
Mae pobl o bob oed a gallu’n cael cyfle i feithrin agwedd o gymryd rhan am oes tuag at iechyd a ffitrwydd drwy gamu allan ar garreg eu drws a mwynhau’r amgylchedd naturiol o’u cwmpas.
A cheir llu o resymau dros fynd allan i ymarfer...
Mae’n rhad ac am ddim! Mae cerdded, rhedeg, beicio, nofio, dringo a hyd yn oed ioga a t'ai chi wedi’u creu’n wreiddiol i’w perfformio y tu allan heb fawr ddim offer ac, o’r herwydd, nid ydynt yn costio llawer.
Mae’n iach Beth am loncian, beicio ac ymarfer y corff yn y parc yn hytrach nag yn y gym a chael llond ysgyfaint o awyr iach a chyflenwad da o fitamin D. Mae fitamin D yn helpu eich corff i gludo ocsigen yn effeithiol ac mae hynny’n bwysig wrth ymarfer, gan ei fod yn annog eich cyhyrau i weithio’n well.
