Mentro Allan 'Venture Out'
Mae Mentro Allan yn gasgliad o brosiectau yng Nghymru a gefnogir gan Gronfa’r Loteri Fawr a phartneriaeth genedlaethol. Mae’r rhaglen yn targedu grwpiau penodol sy’n llai egnïol yn gyffredinol na’r boblogaeth ehangach. Ariennir pob un o’r prosiectau am bedair blynedd, er mwyn sicrhau cynnydd yn lefelau gweithgarwch corfforol y grwp targed hwn, gan wneud y defnydd gorau o’r awyr agored naturiol lleol sy’n agos at ble mae bobl yn byw.
Ewch i wefan Mentro Allan am ragor o wybodaeth ac i ddarganfod mwy am y prosiectau sydd yn rhan o’r fenter.
