Oedolion Egnïol

Canolfannau Hamdden

Canolfan HamddenMae’r dyddiau pan oedd y ganolfan hamdden leol yn cynnwys dim byd ond pwll nofio, ambell sesiwn aerobics a pheiriant gwerthu wedi hen fynd.

Yn darparu cyfleusterau i bobl leol fwynhau amrywiaeth o weithgareddau hamdden i wella iechyd a ffitrwydd a safon byw, mae cyfleusterau’n dod i’r amlwg ar hyd a lled y wlad yn awr, gan gynnig gwasanaethau amrywiol eraill, o ddosbarth ymarfer traddodiadol i’r llai traddodiadol.

Mae canolfannau hamdden yn darparu’n rheolaidd wasanaethau fel rhaglenni adfer cardiag, gwasanaeth cyfeirio gan feddyg teulu, dosbarthiadau cyn-eni, ffisiotherapi a thriniaethau therapi amgen eraill. Hefyd, gall y staff ffitrwydd gynllunio rhaglen unigol yn unol â lefel eich ffitrwydd ac yn unol â’r offer a’r gweithgareddau yr ydych chi’n eu mwynhau fwyaf.

Gellir defnyddio’r rhan fwyaf o gyfleusterau awdurdodau lleol yn achlysurol os yw’n well gennych opsiwn talu wrth gymryd rhan ac mae llawer ohonynt yn cynnig aelodaeth gorfforedig arbennig i fusnesau sydd am gynnig manteision iach i’w gweithluoedd.

Hefyd, mae gan rai feithrinfeydd fel bod modd i oedolion cymwys oruchwylio plant tra bo’u rhieni a’u gwarcheidwaid yn gwneud defnydd llawn o’r cyfleusterau a’r gwasanaethau a gynigir.

Ac ar gyfer y rhai nad ydynt eisiau cael eu cyfyngu i ganolfan hamdden, gall yr adeilad ei hun weithredu fel man cyfarfod defnyddiol yr un fath, ar gyfer grwpiau cerdded neu loncian.

Gyda’r rhestr o’r cyfleoedd gweithgarwch corfforol yn cynyddu, mae canolfannau hamdden yn prysur droi’n siopau-un-stop ar gyfer pawb sy’n ceisio byw bywyd iachach.

Ymhlith y gweithgareddau a fydd ar gael mae:

  • Bocsarfer;
  • Sboncen;
  • Badminton;
  • Dosbarthiadau Dros 50 oed;
  • Nofio ac Aerobics Dwr;
  • Tenis / Tenis Byr;
  • T'ai Chi a chwaraeon ymladd eraill;
  • Dawnsio (bol / salsa/ neuadd ddawns / hip-hop);
  • Ymarferion Cylched;
  • Aerobics;
  • Ioga a Pilates.