Neuaddau Cymunedol
Mae canolfannau cymunedol, fel neuaddau pentref, yn fannau llawn bwrlwm, gyda rhai’n cynnig dosbarthiadau’n amrywio o’r traddodiadol i’r eithafol!

Fel y bydd y rhai sy’n frwd ynghylch ymarfer dan do’n tystio, mae i chwysu dan do ei fanteision. Ac wrth i’r tywydd braf droi’n law aeafol, efallai yr hoffech ystyried eich rhaglen o weithgarwch corfforol dan do i fod yn ddiogel a chyfforddus.
Mae neuaddau cymunedol yn cynnig gofod perffaith ar gyfer cynnal llu o ddosbarthiadau gweithgarwch corfforol ac – yn bwysicach na dim – maent yn rhoi cyfle i bobl o bob oedran a gallu ddewis cynnwys ymarfer a chadw’n heini’n rhan naturiol o’u bywydau, yn hytrach na’u hystyried fel gorchwyl amhleserus!
Mae sesiynau ymarfer egni a chardio uchel, fel aerobics a dawnsio bol, yn hawdd i’w trefnu ac yn ffordd wych o ddal ati gyda’ch ymarfer corfforol – yn arbennig ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu cyrraedd canolfan hamdden neu gym yn hwylus. Mae dosbarthiadau ffitrwydd yn eich cymuned eich hun yn ffordd ddefnyddiol o gwrdd â ffrindiau a chymdogion newydd hefyd, i’ch cymell i ddal ati.
Yn rhan annatod o gymuned llawn bwrlwm, gall neuaddau cymunedol ddarparu man cyfarfod cyfleus ar gyfer y rhai sy’n dymuno trefnu neu gymryd rhan mewn sesiwn cerdded, loncian neu feicio mewn grwp. Ac mae llogi’r cyfleuster i gynnal eich sesiynau gweithgarwch eich hun yn hawdd. Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw cysylltu â’ch awdurdod lleol am wybodaeth bellach neu ewch am dro i adran gyllido’r wefan hon i ddarganfod y grantiau niferus sydd ar gael ac a fydd o gymorth i chi gyda datblygu gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn y gymuned.
