Oedolion Egnïol

Cyngor o'r Sêr

Ursula BowersUrsula Bowers – Capten Pêl Rwyd Cymru

Mae cael hyd i amser i ymarfer pan yn gweithio’n gallu bod yn anodd felly mae’n bwysig peidio â gwneud esgusion a gwneud yn fawr o unrhyw amser rhydd yn ystod y dydd. Rwyf i’n gorfod trefnu fy ymarfer pan nad wyf yn gweithio ac mae’n gallu bod yn gryn her, ond mae’r wobr yn fawr. Efallai nad yw’n opsiwn hawdd, ond mae codi o’ch gwely 30 munud yn gynharach er mwyn ymarfer yn golygu y bydd gweddill y dydd gennych i chi eich hun, a byddwch yn teimlo’n llawer gwell unwaith y byddwch wedi ymarfer, coeliwch chi fi.

Rhys Williams – Enillydd Medal Efydd Ewropeaidd yn y Clwydi 400mRhys Williams

Peidiwch â gadael i’r tywydd amharu ar eich ffitrwydd. Gyda’r dillad priodol, gallwch ymarfer yn yr awyr agored hyd yn oed pan mae’n oer ac yn bwrw glaw. Mae angen ychydig mwy o ymroddiad ac ymdrech, ond unwaith rydych wedi gwneud hynny, byddwch yn teimlo’n llawer gwell. Ac unwaith daw’r tywydd cynnes, bydd ymarfer yn yr awyr agored yn llawer haws.