Oedolion Egnïol

Cyngor o'r Sêr

Kelly Morgan - Cyn Pencampwraig Badminton Gemau'r Gymanwlad Kelly Morgan

Beth bynnag rydych yn ei wneud, gwnewch rywbeth! Does dim rhaid iddo fod yn rhedeg pum milltir na threulio oriau yn y gym. Pan nad wyf yn ymarfer, rwy’n gwneud pob ymdrech i fod mor egnïol ag y bo modd yn fy mywyd bob dydd, oherwydd rwy’n gallu cynnal hynny am oes. Mae cerdded i’r siopau, dawnsio o amgylch y ty, chwarae pêl droed gyda’r plant neu feicio i’r gwaith yn weithgareddau hawdd i’w cynnwys yn eich diwrnod a gallant wneud gwahaniaeth mawr i’ch ffitrwydd.

Jayne LudlowJayne Ludlow – yn chwarae i ferched Arsenal ac yn Gapten Rhyngwladol Cymru

Os na allwch gyrraedd y gym, gallwch gadw’n heini yr un fath drwy fynd allan o’r ty a cherdded am dipyn. Mae gennym gefn gwlad arbennig iawn yng Nghymru ac mae’n rhad ac am ddim!

David Davies - Pencampwr Nofio Gemau'r Gymanwlad David Davies

Dylech geisio sicrhau bod eich ymarfer yn hwyl bob amser. Wrth i chi ymarfer neu gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd corfforol, cofiwch mai nid ceisio cael lle yn sgwad Gemau’r Gymanwlad ydych chi! Dylech ymarfer yn eich amser eich hun a mwynhau!"