Oedolion Egnïol

Cyngor o'r Sêr

Y Fonesig Tanni Grey-Thompson Y Bon Tanni Grey Thompson

Er nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn ymarfer i ennill, mae pawb angen rhyw fath o gymhelliant i ddal ati – pa un ai er mwyn gallu bod cystal â’ch partner ymarfer, i loncian am 30 munud heb stopio neu i ffitio yn eich hen jîns.

Mae gan lawer o bobl ofn y syniad o gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer, ond nid yw cadw’n heini’n gorfod golygu chwysu chwartiau yn y gym o flaen llond lle o bobl ifanc 20 oed siapus a del. Dydi rhywbeth sy’n addas i un person ddim bob amser yn gweithio i un arall ac os ydych am ddal ati, mae’n rhaid i chi gael hyd i rywbeth rydych yn ei fwynhau. Gall gwisgo hen dracwisg a cherdded yn eithaf cyflym am ryw 20 munud gyda ffrind fod yr un mor ddefnyddiol, neu feicio gyda gweddill y teulu. Er na fyddwch yn ymarfer ar gyflymdra fydd yn eich galluogi i redeg marathon, mae pob math o weithgarwch corfforol yn bwysig iawn i’ch iechyd a’ch lles.

Nicole CookeNicole Cooke – Pencampwraig Beicio

Waeth beth yw eich rhesymau dros fod yn segur, ni ddylai diffyg cyfle fod yn un ohonynt. Yng Nghymru, rydym wedi ein bendithio gan gyflenwad digonol o fynyddoedd, llwybrau beicio a cherdded, llynnoedd ac afonydd, felly waeth beth yw eich diddordeb, mae rhyw ddarpariaeth yn bodoli ar eich cyfer – ac mae’r rhan fwyaf yn rhad ac am ddim.

Rwyf bob amser yn gwneud y gorau o’r awyr agored pan wyf adref ac mae amrywiaeth y tirlun yn gwneud beicio’n llawer mwy o bleser nag o ddyletswydd. Ac mae’r un peth yn wir am ba bynnag weithgaredd a ddewisir gennych, boed yn grwydro hyd Bannau Brycheiniog, cerdded yn Eryri neu’n beicio ar hyd Lwybr Taf.