Cwestiynnau Ac Atebion
Rwyf wedi ymddeol yn ddiweddar ond fe hoffwn gadw’n heini. Mae gennyf lawer o syniadau ac mae fy ffrinidiau i gyd yn dweud yr hoffent ymuno â mi. Beth ddylwn i ei wneud nesaf?
Cysylltwch â thîm datblygu chwaraeon eich awdurdod lleol. Mae gan yr aelodau wybodaeth ragorol am eich ardal a’r gweithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddynt. Gallant eich cynghori hefyd ynghylch creu cyfleoedd ar garreg eich drws ac ynghylch y gwahanol fath o gyllid grant sydd ar gael. Os oes gennych syniad fyddai’n gwneud i bobl fod yn egnïol, mae’n bwysig eich bod yn ei rannu.
Rwy’n fam sengl ac mae fy mhlant wedi tyfu i fyny. Yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf mae cadw’n heini ac iach wedi bod yn dod yn ail. Fe hoffwn golli pwysau a theimlo’n well amdanaf fy hun, ond does gen i ddim syniad ble i ddechrau na beth sydd ar gael. Dydw i ddim yn dreifio a dydw i ddim yn teimlo’n hyderus iawn ynghylch cymryd rhan mewn chwaraeon tîm. Beth ddylwn i ei wneud?
Mae’n gallu bod yn anodd ailddechrau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, yn enwedig wedi cyfnod hir o fod yn segur, ond cofiwch nad ydych ar eich pen eich hun. A dweud y gwir, nid yw traean oedolion Cymru’n gwneud digon o ymarfer (5x30 munud yr wythnos) i hynny fod o fudd arbennig i’w hiechyd. Ceir timau o bobl arbenigol i’ch helpu. Tîm datblygu chwaraeon eich awdurdod lleol yw’r cyswllt cyntaf a gallant hwy roi cyngor i chi am fwy na 100 o weithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddynt. Felly dewch yn eich blaen, cymerwch y cam cyntaf heddiw.
Rwyf wedi gorfod ymddeol yn gynnar o’m gwaith yn ddiweddar oherwydd anaf. Rwy’n 60 ac fe hoffwn fod yn iachach a cholli rhyw faint o bwysau. Rwyf wedi bod ar ddeiet bob hyn a hyn ers degawd ond dydw i ddim yn llwyddo. Nid wyf yn gallu cerdded ymhell gan fod fy migwrn yn boenus drwy’r amser. Dydw i ddim yn gyrru car felly mae’r dewis yn gyfyngedig. Byddwn yn hoffi rhoi cynnig ar sefydlu rhywbeth fy hun, gan fod gen i fwy o amser yn awr. Sut all y Cyngor Chwaraeon fy helpu?
Cysylltwch â’ch Swyddog Cymunedau Egnïol lleol yn y Cyngor Chwaraeon. Bydd yn gallu cynnig cyfarwyddyd da i chi a bydd yn fwy na pharod i’ch gweld yn eich cymuned leol neu drefnu i chi fynd i’w weld ef neu hi. Fel dewis arall, ffoniwch i gael sgwrs am yr hyn yr hoffech ei wneud, yn arbennig os ydych yn dymuno sefydlu rhywbeth newydd ar eich cyfer chi a chriw o ffrindiau. Byddai nofio’n ffordd ragorol o fod yn fwy heini a cholli pwysau ac ni fyddai symud yn y pwll yn rhoi gormod o straen ar eich anaf. Mae Cynulliad Cymru wedi buddsoddi’n helaeth mewn annog plant ac oedolion hyn i fynychu ein pyllau nofio’n rheolaidd drwy gyfrwng y cynllun Nofio Am Ddim. Dan y cynllun hwn, gall pob plentyn ysgol a phawb dros 60 oed nofio am ddim ym mhyllau nofio’r awdurdodau lleol.
Rwyf wedi clywed bod dechrau ymarfer wedi blynyddoedd o anweithgarwch yn gallu bod yn beryglus ac yn gallu gwneud mwy o ddrwg nag o les. Ydi hyn yn wir?
Gallwch ddechrau ymarfer ar unrhyw adeg, dim ond eich bod yn rhoi sylw manwl i ddwysedd ac amledd. Gallwch fynd i weld eich meddyg teulu am gyngor ynghylch eich sefyllfa benodol os ydych yn dymuno, ond, yn gyffredinol, nid oes unrhyw sgil-effeithiau i’w profi wrth ymarfer, cyn belled â’ch bod yn ymarfer yn iawn. Dechreuwch yn araf gan wrando ar eich corff. Mewn ychydig ddyddiau, byddwch yn elwa o’r manteision ac wedi wythnos neu ddwy, byddwch yn teimlo’n well y tu mewn a’r tu allan – mae hynny’n sicr!
Beth yw ystyr hyfforddiant aerobig? Roeddwn i’n arfer mwynhau aerobics. Ai’r un peth yw’r ddau?
Mae hyfforddiant aerobig yn golygu unrhyw ymarfer sy’n para’n ddigon hir i chi orfod defnyddio ocsigen i ddal ati i ymarfer. Mae egni’n cael ei storio yn eich corff ac yn cael ei ddefnyddio i ddechrau. Nid yw ymarferion byr, fel rhedeg i ddal y bws, yn dibynnu’n llwyr ar ocsigen felly byddwch yn defnyddio’r egni sydd wedi’i storio ar gyfer hynny. Pe baech yn cerdded am 20 munud i’r arosfan bws, byddai eich corff yn dechrau defnyddio ocsigen wedyn, yn danwydd i’r symud parhaus, ac felly mae’n ymarfer aerobig.
Rwy’n rhy hen i weithgarwch corfforol yn awr, ar gyfer plant a’m hwyrion mae hynny ynte?
Mae arbenigwyr yn dweud bod cyrff hyn yn gweithio’n llawer gwell wrth i chi ymarfer. Er bod gorffwyso ac ymlacio’n bwysig, mae’n hanfodol eich bod yn cynnwys gweithgarwch corfforol yn eich bywyd i barhau’n heini, yn iach ac yn annibynnol. Wedi’r cyfan, does dim diben byw i oedran teg os nad yw eich meddwl a’ch corff yn gweithio’n dda. Mae bod yn heini yn gorfforol yn lleihau’r risg o gyflyrau fel osteoporosis a chlefyd y galon hefyd, sy’n cynyddu gydag oedran. Mae cryfder y cyhyrau, dwysedd yr esgyrn a’r gallu i gofio i gyd yn dirywio gydag oedran, ond gall ymarfer fod o fudd i atal hyn am gyfnod. A dylai fod o gymorth i chi fod ag egni diddiwedd i ofalu am eich wyrio a’ch wyresau!
Bob blwyddyn rwyf i am teulu a’m ffrindiau’n eistedd wrth y bwrdd ac yn gwneud addewidion ac addunedau adeg y Nadolig. Ond erbyn mis Chwefror, rwyf wedi anghofio amdanynt. Rwyf eisiau teimlo’n well amdanaf fy hun ond dydw i ddim yn teimlo’n gyfforddus yn mynd i’r gym ac i ddosbarthiadau gyda phobl eraill sy’n heini iawn. Beth allaf i ei wneud?
Dydi un maint ddim yn ffitio pawb a dydi rhywbeth y mae un person yn ei fwynhau ddim o angenrheidrwydd yn addas i berson arall. Mae cymaint mwy i gadw’n heini ac iach na mynd i’r gym neu i ddosbarth ymarfer. Efallai ei bod yn well gennych rywbeth llai trefnus, fel cerdded ar ôl gwaith neu yn ystod y penwythnos, beicio gyda’r teulu neu ffrindiau, nofio yn y ganolfan hamdden leol neu gêm o fadminton. Ceir llawer o opsiynau ac efallai nad ydych wedi ystyried rhai ohonynt. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol am wybodaeth bellach am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal.
Pan rwy’n dod adref o’r gwaith mae fy amser i gyd yn mynd wrth fwydo’r plant, rhoi llwyth i olchi a mynd â’r plant i’r clwb ieuenctid. Mae’n 9pm cyn i mi gael cyfle i eistedd i lawr o flaen y teledu ac yna mae’n amser gwely. Ble allaf i gael amser i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol?
Mae diffyg amser yn rhwystr cyffredin. Gall fod yn anodd cyfiawnhau rhoi amser i weithgarwch corfforol ond mae modd cynnwys gweithgarwch yn eich bywyd bob dydd, yn lle ei ychwanegu ato. Ystyriwch godi fymryn yn gynt a mynd am dro, neu wneud yn fawr o’ch amser cinio. Mae’n werth meddwl am fod yn egnïol tra bo’r plant yn y clwb ieuenctid hefyd. Holwch yn lleol ac efallai y gwelwch fod gan famau eraill ddiddordeb mewn sefydlu clwb cerdded neu loncian anffurfiol, neu ddod at eich gilydd ar gyfer dosbarth aerobics neu ddawns.
Ar hyn o bryd rwyf ar fudd-daliadau ac mae pethau pwysicach mewn bywyd na chwarae gemau. Pam ddylwn i boeni am ffordd o fyw iach?
Does dim rhaid bod yn graig o arian i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Dyma un o’r ychydig bethau y gallwch gymryd rhan ynddo am ddim a dweud y gwir. Efallai fod gennych esgidiau addas ar gyfer cerdded neu loncian eisoes, neu hen bêl droed, beic neu raff sgipio yn y garej. Mae rhai canolfannau hamdden yn cynnig sesiynau Nofio Am Ddim i blant a phobl hyn – cysylltwch â’ch Swyddog Cymunedau Egnïol lleol yng Nghyngor Chwaraeon Cymru am wybodaeth bellach. Yn bwysicach fyth, peidiwch â bod ag ofn defnyddio eich dychymyg i fod yn egnïol. Gall hen ffrisbi ar y traeth neu flwch stepio cadarn yn y lolfa gynnig oriau diddiwedd o hwyl a ffitrwydd. Wedi’r cyfan, eich iechyd yw eich dyfodol a bydd ychydig o amser yma ac acw ar gyfer gweithgarwch corfforol o fudd i chi am weddill eich bywyd.
Rwy’n 60 oed bron ac mae’r meddyg wedi dweud wrthyf y dylwn fod yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn rheolaidd. Roeddwn yn arfer mwynhau nofio pan oeddwn yn iau ond y drafferth yw, nid wyf yn dreifio ac ni allaf gerdded i ddal y bws gan fod fy nghoes yn boenus. Beth allaf i ei wneud?
Cysylltwch â swyddog datblygu chwaraeon eich awdurdod lleol oherwydd bydd yn eich cefnogi wrth i chi drefnu sesiynau gweithgarwch corfforol addas i’ch anghenion. Fe allai fod yn rhywbeth mor hawdd â threfnu cludiant wythnosol i bwll nofio lleol neu gysylltu ag aelodau eraill o’r gymuned a all gynnig lifft neu gefnogaeth i chi. Mae gan bawb hawl i fod yn iach ac mae modd goresgyn y rhwystrau sy’n eich atal rhag mwynhau gweithgarwch corfforol.
Rwyf wedi cael digon ar y ffordd rwy’n edrych ar hyn o bryd ond mae’n frwydr fawr ceisio bod y maint yr oeddwn ar un adeg. Rwyf wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd ond rwy’n gwneud yn dda am wythnos neu ddwy ac yna’n mynd yn ôl i’m hen ffyrdd. Beth yw’r diben os nad yw’n gweithio?
Mae pawb yn cael cyfnod o fod eisiau newid y ffordd y mae’n edrych, yn enwedig wedi magu pwysau. Does dim rhaid i chi fod yn denau fel brwynen i fod yn heini ond gweithgarwch corfforol rheolaidd yw un o’r ffyrdd gorau o drawsnewid eich corff – y tu mewn a’r tu allan. Ond mae’n hawdd digalonni pan nad ydych yn gweld unrhyw ganlyniadau ar unwaith. Mae’n bwysig ymarfer ychydig yn aml a gosod nodau bychain sy’n ymarferol ac yn gyraeddadwy. Ar ddiwedd y dydd, mae ffitrwydd am oes – mae’n cymryd amser i adeiladu ffitrwydd ac amynedd yw’r allwedd. Cofiwch, mae pob eiliad a dreuliwch yn egnïol yn gorfforol yn un cam arall tuag at eich nod. Mae camau bychain yn gwneud cynnydd mawr a buan iawn y byddwch yn sylwi ar newidiadau pendant yn eich ymddangosiad a’ch hyder.
Dim ond unwaith bob pedair blynedd rwy’n mynd i’r neuadd gymunedol – i bleidleisio! A oes modd i mi sefydlu rhywbeth yno i’m helpu i a’m ffrindiau i fod yn fwy heini?
Nid yw cael hyd i’r cyfleusterau priodol i chi allu perfformio’n ddiogel yn gorfod bod yn anodd. Mae ysgolion, neuaddau eglwys, canolfannau cymunedol a chanolfannau hamdden i gyd yn gyfleus ac yn wag yn aml y tu allan i’r oriau brig. Maent ar gael i’w defnyddio felly os ydych yn meddwl bod gennych leoliad addas, cysylltwch â’r awdurdod lleol neu â phwy bynnag sy’n gofalu am yr allwedd, er mwyn iddynt ddatgloi’r drws ar eich bywyd newydd heini ac egnïol!
