Pa Mor Egniol Ydw I ?
Does dim dianc rhag y ffaith bod ymarfer yn rheolaidd yn eich cadw’n iach. Mae’n lleihau’r risg o salwch, yn gallu eich helpu i golli pwysau neu gynnal pwysau iach ac yn cael effaith ragorol ar lefel eich egni a’ch hyder.
Ac rydym yn gwybod bod miloedd o esgusion dros beidio ag ymarfer yn bodoli - rhy brysur, rhy flinedig, rhy ddiflas, ond does yr un ohonynt yn rhesymau dilys!
Felly pa mor egnïol ydych chi mewn gwirionedd? Cymerwch amser i gwblhau holiadur rhyngweithiol er mwyn canfod a ydych yn bodloni’r canllawiau a argymhellir ar gyfer gweithgarwch bob dydd ac, os nad ydych, beth ddylech fod yn ei wneud i wneud iawn am hyn.
Holiadur
Pa flaenoriaeth mae iechyd yn ei gael yn eich bywyd?
