Oedolion Egnïol

Nofio am ddim i bawb 60+

Mentrwch i’r dwr gyda’r Fenter Nofio Am Ddim i Bobl 60+!

Free swimming for the Over 60'sBeth am fentro i’r dwr?! Os ydych yn 60 oed neu’n hyn ac yn chwilio am rywbeth newydd i roi cynnig arno, yna gall ‘Menter Nofio Am Ddim’ Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n ceisio cael pobl i fod yn iachach ac yn fwy egnïol yn gorfforol, fod yn addas i chi.

Yn ystod sesiynau penodol, mae pobl 60 oed a hyn yn cael cyfle i fynychu pyllau nofio AM DDIM yng Nghymru. Os nad yw nofio nôl a mlaen ar hyd y pwll yn apelio atoch, mae digon o weithgareddau dwr eraill ar gael i chi roi cynnig arnynt. Beth am gerdded neu redeg yn y dwr, sy’n haws gan lawer o bobl nac ar dir. Bydd cerdded yn yr unfan mewn dwr yn eich blino’n lân ond bydd o gymorth i siapio eich coesau a’ch cyhyrau.

Mae llawer o byllau’n cynnig gweithgarwch AM DDIM gyda Hyfforddwr bob wythnos. Gall hyn amrywio o bwll i bwll, felly mae’n werth gwirio ymlaen llaw. Ond beth am ddod â’ch ffrindiau gyda chi ar gyfer un o’r canlynol:

  • Sesiwn Heini Mewn Dwr;
  • Dysgu nofio;
  • Sesiynau gwella dull;
  • Ymarfer corff yn y dwr.

Sylwer bod raid i chi wirio gyda’ch meddyg cyn dechrau ar eich rhaglen ymarfer, yn enwedig os oes gennych broblemau cronig gyda’r cefn, y cymalau, y galon neu’r glust fewnol.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â Nofio Am Ddim gan gynnwys tystiolaeth gan ddefnyddwyr presennol, gwrandewch ar podcast Nofio Am Ddim.

Pam Nofio? Free Swimming for the Over 60's

Mae gan nofio nifer o fanteision i’w cynnig i chi, yn cynnwys:

Gwella eich ffitrwydd:

Mae nofio’n siapio eich corff cyfan ac yn gwella’r cyflwr cardiofasgiwlar, y cryfder cyhyrol, dygnedd ac ystum y corff a’i hyblygrwydd i gyd ar yr un pryd. Gall ymarfer sy’n cynnwys nofio helpu i ostwng pwysedd gwaed uchel, sy’n lleihau’r risg o afiechyd ar y galon a strôc.

Llai o risg o anafiadau yn sgil gweithgareddau nofio:

Ceir risg isel o anafiadau wrth nofio oherwydd nid ydych yn rhoi unrhyw straen ar eich esgyrn, eich cymalau na’r meinweoedd cysylltiol gan fod y dwr yn eich cynnal. Os yn chwilio am ymarfer dyddiol diogel, mae nofio’n ddelfrydol oherwydd gallwch weithio’n egnïol heb ddioddef o anafiadau.

Helpu i golli pwysau:

Os am golli pwysau, nofio yw’r gweithgaredd i chi. Ar gyfartaledd, gall nofiwr losgi cymaint o galorïau mewn awr â rhedwr sy’n rhedeg chwe milltir mewn awr.

Cwrdd â phobl newydd:

Mae cymryd rhan mewn sesiwn nofio neu weithgaredd yn y pwll yn ffordd ragorol o gwrdd â phobl newydd, neu ewch â’ch ffrindiau gyda chi i gael hwyl!

Lleddfu straen:

Mae nofio’n eich ymlacio’n llwyr ac yn galluogi i fwy o ocsigen lifo i mewn i’ch cyhyrau, gan eich gorfodi i reoli eich anadl. Mae’n ffordd wych hefyd o leddfu straen.

Llywodraeth Cynulliad Cymru - Adroddiad Crynodeb Data am y cyfnod Ebrill 2004 hyd Medi 07.