Storiau i Ysbrydoli
Mae John Pritchard o Amlwch wedi derbyn gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Chwaraeon 2006 gan NIACE Dysgu Cymru.

Derbyniodd y cyn wr busnes, sydd bellach yn hyfforddi timau pêl droed lleol y wobr am ei waith gyda Campau'r Ddraig ar Ynys Môn. Mae'n wirfoddolwr gyda thîm pêl droed Amlwch ers tair blynedd ar ddeg, ac ers 2004 mae wedi bod yn gyfrifol am redeg sesiynau chwaraeon ar gyfer plant gydag anghenion arbennig.
Mae'r cynllun gwobrwyo yn cydnabod llwyddiannau oedolion sydd wedi gwella eu bywydau a bywydau eraill trwy barhau i ddysgu.
Ar dderbyn y wobr dywedodd John: "Rwy'n falch iawn o dderbyn y gydnabyddiaeth yma. Mae fy ngwaith gyda Campau'r Ddraig wedi rhoi'r cyfle i mi ddatblygu fy sgiliau tra'n parhau i weithio. Gobeithio hefyd fy mod wedi gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd rhai o'r bobl ifanc rydw'i wedi gweithio â nhw".
Ychwanegodd y deilydd portffolio Hamdden, y Cynghorydd Derlwyn Hughes, "Rydym yn falch iawn o lwyddiant John. Mae wedi gwneud cyfraniad gwerth chweil i chwaraeon ar yr ynys."
Teithiodd John Pritchard i Gaerdydd i gasglu'r tlws – a noddwyd gan Cyngor Chwaraeon Cymru - gan gyflwynydd chwaraeon ITV Cymru, Rhodri Davies a Prif Weithredwr Cyngor Chwaraeon Cymru, Dr. Huw Jones.
NIACE dysgu Cymru sy'n gyfrifol am hyrwyddo a hwyluso addysg i oedolion yng Nghymru ac mae'r cynllun gwobrwyo yn rhan o weithgareddau blynyddol Wythnos Addysg i Oedolion.
JOHN HARVEY ROBERTSON

Fel chwaraewr, gweinyddwr gwirfoddol, hyfforddwr, aelod o bwyllgor a swyddog datblygu chwaraeon gwirfoddol, mae John Harvey Robertson wedi bod yn ymwneud a chwaraeon drwy gydol ei oes.
Mae'r seren o Fryncrug wedi ymroi i godi safonau a darparu cyfleoedd i filoedd o bobl ledled De Meirionnydd. Chfodd ei gyflawniadau eu cydnabod pan gyflwynwyd y wobr Cyflawniad mewn Chwaraeon iddo yn sermoni Cewri Byw Help the Aged.
Daeth John yn ysgrifennydd clwb pel droed mewn ysgolion cynradd yn 1973. Mae'n dal i wneud y ddwy swydd yma heddiw.
