Oedolion Egnïol

Oedolion Egnïol

Os mai eich agwedd at fyw’n iach yw "Pe baem i fod i gyffwrdd blaenau ein traed, byddent yn uwch i fyny ar ein cyrff," – meddyliwch eto!

Beicio Mynydd

Yn y bôn, rydym i gyd yn gwybod pa mor fuddiol yw gweithgarwch corfforol i’n hiechyd ac i’n lles yn gyffredinol. Felly pam ein bod, yn rhy aml, yn rhoi ein bwriadau da i fyw’n iachach yn ail i bopeth arall? Ydym ni’n genedl sy’n methu manteisio ar y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgarwch a’i fwynhau pan gawn gyfle? A fyddwn yn ystyried cadw’n heini fel gorchwyl am byth?

Un o’r rhesymau pam y dylai pob un ohonom fod yn egnïol yn gorfforol, ac aros felly, yw er lles ein hiechyd. Waeth beth yw ein pryderon am iechyd – boed yn bwysau gwaed uchel, cario gormod o bwysau neu afiechyd ar y galon – mae gweithgarwch corfforol rheolaidd, yn ddiamheuaeth, yn allweddol i fyw’n hir ac yn iach.

Os ydych yn eich ystyried eich hun fel person egnïol eisoes, y siawns yw eich bod yn goramcangyfrif faint o weithgarwch corfforol yn union yr ydych yn ei wneud.

Ac er ei bod yn gwbl afrealistig ceisio’r lefelau ffitrwydd a berthyn i athletwyr elitaidd, nid yw ychwanegu ychydig o weithgarwch corfforol at eich dydd yn afresymol!

Dim ond 30 munud o weithgarwch cymedrol ddwys bum niwrnod yr wythnos ydych chi angen ei wneud i fyw’n iach. Mae hynny’n cyfateb i ddim ond 1.5 y cant o’r amser sydd mewn wythnos o saith niwrnod! Gellir rhannu’r 30 munud yn flociau llai hyd yn oed, gyda sesiynau 3 x 10 munud neu 2 x 15 munud – sydd yr un mor effeithiol.

Mae’r dystiolaeth yn cynyddu ac yn gryfach nag erioed. Gall pobl o bob oedran sy’n gyffredinol segur wella eu hiechyd a’u lles drwy fod yn fwy egnïol yn rheolaidd. A cheir llu o fanteision cysylltiedig â hyn, fel a ddatgelir ar y tudalennau a ganlyn.

Felly pam yr oedi? Gosodwch nodau realistig i chi eich hun a gwnewch rywbeth egnïol rydych yn ei fwynhau, oherwydd os ydych yn cael hwyl, bydd yn llawer haws dal ati!

Ewch amdani ac fe welwch pa mor hawdd yw cael eich calon i guro’n gynt a pha mor braf yw cymryd y camau bychain rheiny sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth.