Chi A’ch Gweithle

Cwestiynau ac Atebion

C 1: Does gennym ni ddim cawod yn y gwaith ac felly rwyf wedi fy nghyfyngu gan y math o weithgareddau y gallaf gymryd rhan ynddynt. Beth ydych chi’n ei awgrymu?

Cerdded yw un o’r dulliau symlaf a mwyaf effeithiol o ymarfer. Efallai na fyddwch yn chwysau chwartiau yn ystod amser cinio wrth gerdded i’r siop frechdanau, ond rydych yn elwa – rydych yn dal i ddefnyddio egni ac yn ychwanegu at eich cwota ymarfer. Os ydych yn chwilio am rywbeth ychydig bach yn fwy corfforol, beth am ystyried defnyddio rhai o’r cyfleusterau lleol. Mae’r rhan fwyaf o ganolfannau hamdden a champfeydd yn cynnig aelodaeth gorfforedig am bris is felly os oes gan ddigon o’ch cydweithwyr ddiddordeb, ymunwch! Os nad oes gennych ddigon o amser yn ystod eich awr ginio, beth am yn y bore cyn y gwaith, neu ar ôl i chi orffen?

C 2: Does gen i ddim amser oherwydd ymrwymiadau gwaith / teulu i gymryd rhan mewn hanner awr o weithgarwch corfforol. Ydi hi ar ben arna i?

A: Na! Peidiwch â digalonni o glywed y neges 30 munud – gellir ei rannu’n dri sesiwn o 10 munud neu’n ddau sesiwn o 15 munud. O edrych arno fel hyn, mae’n llawer haws ei gynnwys yn eich diwrnod gwaith. Cerdded am ddeng munud cyn gwaith, yn ystod amser cinio ac wedyn ar ôl gwaith a dyna chi, byddwch wedi cyrraedd eich targed a byddwch yn rhydd i wneud fel y mynnwch weddill y dydd.

C 3: All dringo’r grisiau yn lle defnyddio’r lifft a pharcio ym mhen draw’r maes parcio wneud gwahaniaeth go iawn i’m hiechyd?

A: Byddwch yn synnu! Mae cerdded i fyny tair grisiau’n llosgi teirgwaith mwy o galorïau na phe baech yn defnyddio’r lifft. Gwnewch hyn bedair gwaith y diwrnod, bum niwrnod yr wythnos a byddwch yn llosgi 450 o galorïau. Mae’r un peth yn wir am y maes parcio. Drwy barcio yn y pen draw un bob dydd a cherdded pum munud i’r swyddfa, byddwch yn llosgi 150 o galorïau yr wythnos – mae hynny’n 125 o galorïau yn fwy na phe baech yn parcio nesaf at y fynedfa. Ychwanegwch hyn at ryw ddau gyfarfod hanner awr yn cerdded, lle bydd 180 o galorïau yn cael eu llosgi, a thair siwrnai ar droed am 10 munud i’r siop frechdanau yn llosgi 60 o galorïau ar y tro a byddwch wedi llosgi 1140 o galorïau yn ystod eich wythnos waith.

C 4: Does gen i ddim amser i fwyta yn ystod fy amser cinio bron, heb sôn am gerdded! Sut mae disgwyl i mi gael hyd i amser ar gyfer gweithgarwch corfforol·

A: Mae cael hyd i amser a dyhead i ddatblygu ffordd o fyw iach yn gallu bod yn frwydr fawr ond ychydig iawn o amser sydd ei angen ar gyfer gwahanol fathau o weithgareddau. Mae’n bwysig cofio bod ymarfer yn rheolaidd yn gallu bod o fudd aruthrol i bobl sy’n gweithio mewn amgylchedd llawn straen. Ymhlith y manteision mae pwysedd gwaed is, rheoli poen cefn a llai o ordewdra, straen, gorbwysedd, y clefyd siwgr a strôc. Gwelwyd bod ymarfer wedi llwyddo i arwain at leihau nifer yr absenoldebau o’r gwaith a gwella perfformiad a chynhyrchiant. Felly, efallai eich bod yn teimlo nad ydych yn gallu rhoi amser yn ystod eich awr ginio i gerdded, ond mae’n gwneud synnwyr arbennig o dda o ran eich busnes.

C 5: Rwy’n diflasu yn ymarfer ar fy mhen fy hun ond does gan neb yn fy swyddfa ddiddordeb mewn ymuno â mi. Beth allaf i ei wneud?

Er nad oes neb yn eich swyddfa chi eisau ymuno â chi, efallai y byddai rhywun arall yn yr adeilad yn hoffi gwneud. Efallai fod sawl person arall tebyg i chi yn yr adeilad. Anfonwch e-bost i ganfod a oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn sefydlu grwp cerdded, cynghrair bêl rwyd neu bêl droed pump-bob-ochr. Unwaith y bydd gan bobl ddiddordeb, gallwch ddechrau arni a mwynhau ymarfer yn gymdeithasol.

C 6: Yn ogystal â gwella fy ffitrwydd corfforol, rwyf hefyd eisiau gwella fy neiet. Y drafferth ydi nad yw’r ffreutur yn cynnig llawer o ddewis, dim ond sglodion.

A: Fe allech chi fynd at staff y ffreutur i drafod y posibilrwydd o gyflwyno opsiynau iachach fel salads, tatws pob, brechdanau bara cyflawn a ffrwythau ffres. Gofynnwch a chwi a gewch! Hefyd, gallech roi arian at arian cydweithwyr eraill a chadw byrbrydau iach yn y swyddfa, ferl ffrwythau ffres neu sych, cacennau reis, cacennau ceirch a byns ffrwythau. A thrwy gerdded gyda’ch gilydd yn ystod eich amser cinio i brynu mwy o gyflenwadau, byddwch yn cyrraedd eich targed gweithgarwch hefyd.

C 7: Fe hoffwn feicio i’r gwaith ond rwy’n byw yn rhy bell. A oes ffordd arall?

A: Os yw beicio bob cam yn ormod, beth am feicio rhan o’r siwrnai. Prynwch rac beiciau ar gyfer y car fel eich bod yn gyrru am ran gyntaf eich siwrnai ac yna’n gorffen y gweddill ar ddwy olwyn. Dylai hyn olygu eich bod yn gallu osgoi’r traffig gwaethaf hefyd, wrth fynd i’r gwaith ac wrth ddod adref. Os nad oes rac neu safle i storio eich beic yn y gwaith, gall eich cwmni wneud cais i Gyngor Chwaraeon Cymru am gyllid ar gyfer hyn, er mwyn annog mwy o weithwyr i gymudo’n egnïol.

C 8: Rwyf eisoes yn gwneud 30 munud o ymarfer drwy fynd i’r gym a nofio bum gwaith yr wythnos. A oes raid i mi fod yn egnïol yn y gwaith hefyd?

A: Llongyfarchiadau, rydych eisoes yn gwneud digon o weithgarwch corfforol i hynny fod o fudd i’ch iechyd. Ond dydi hynny ddim yn golygu bod raid i chi eistedd yn ôl a gwneud dim tra rydych yn y gwaith. Nid yw’r math o ymarfer yr ydym ni’n ei annog – fel defnyddio’r grisiau, ymestyn a symud bob awr, cerdded yn lle gyrru i brynu brechdan yn ystod amser cinio – yn rhy egnïol felly byddwch yn dal i allu mynd i’r gym a nofio. Mae’n werth cofio hefyd bod cynyddu lefelau gweithgarwch yn ystod y dydd yn golygu mwy na gwella ffitrwydd. Mae poen cefn a straen yn broblemau cysylltiedig â gwaith a gellir eu datrys drwy wneud newidiadau syml i’ch diwrnod.

C 9: Rwy’n nyrs ac felly mae fy ngwaith yn golygu fy mod yn egnïol yn gorfforol drwy’r adeg.

A: Fe ddylem ni i gyd fod yn cerdded 10,000 o gamau bob dydd ac fel nyrs mae’n bur debyg eich bod yn llwyddo i gyflawni hyn yn eich gwaith. Mae’r un peth yn wir am swyddi egnïol eraill fel trin gwallt, labro neu heddwas. Ond efallai eich bod eisiau meddwl am fanteision eraill ymarfer. Mae mynd allan o’ch lle gwaith am dro neu i’r siop yn gallu lleddfu unrhyw straen rydych yn ei deimlo. Mae hefyd yn hybu synnwyr o les, yn codi eich hwyliau ac yn gwella eich gallu i ganolbwyntio. Bydd hynny o fudd mawr i chi wrth i chi ddychwelyd i’r gwaith.

C 10: Hyd yn oed ar benwythnosau pan mae gennyf fwy o amser i ymarfer, rwy’n ei chael yn anodd i’m cymell fy hun. Sut mae disgwyl i mi wneud hynny pan rwyf yn y gwaith ac yn brysur iawn?

A: Ychydig iawn ohonom sydd wedi’n cymell ddigon i wneud ymarfer yn rhwydd. Mae’r rhan fwyaf ohonom angen cymorth i’n hannog i ddechrau arni ac i ddal ati a dyna pam fod ymarfer gydag eraill yn syniad mor dda. Mae chwaraeon tîm fel pêl foli a rygbi cyffwrdd yn ffyrdd gwych o gael pobl at ei gilydd yn rheolaidd ac mae’n hawdd iawn eu cyflwyno yn y gweithle. Neu, os yw’n well gennych rywbeth llai cystadleuol, efallai yr hoffech roi cynnig ar grwp cerdded. Mae ymarfer gydag eraill yn fwy o hwyl yn aml ac rydych yn llawer llai tebygol o roi’r gorau iddi os byddwch yn gwybod eich bod yn siomi eraill. Os nad oes gweithgareddau grwp yn eich gweithle, yna trefnwch rywbeth eich hun, gan wahodd pobl i ymuno â chi.

As well as improving my physical fitness, I also want to improve my diet. The trouble is the canteen doesn’t offer many choices other than chips. Answer...
Can taking the stairs over the lift and parking at the far end of the car park really make a difference to my health? Answer...
Even on weekends when I have more time to exercise I find it hard to motivate myself. How am I expected to do it when I’m in work and pushed for time? Answer...
I already hit my 30 minute exercise target by going to the gym and swimming five times a week. Is there still a need for me to be active at work? Answer...
I barely have time to eat at lunchtime, let alone walk! How am I expected to find time for physical activity? Answer...
I get bored exercising alone but no-one in my office is interested in joining me. What can I do? Answer...
I haven’t got time due to work/family commitments to do 30 minutes worth of physical activity. Am I a lost cause? Answer...
I’d like to cycle to work but I live too far away. Is there another way? Answer...
I’m a nurse so the work I do means I am already physically active. Answer...
We haven’t got access to showers in work so I’m limited in the type of activities I can do. What do you suggest? Answer...