Cymudo Egnïol
PAM?
I’r rhan fwyaf ohonom, mae’r syniad o gadw’n heini ar y ffordd i’r gwaith yn ymddangos yn amhosibl ac yn flinedig. Ond ddylech chi ddim wfftio at rywbeth nad ydych wedi rhoi cynnig arno. Mae ffyrdd amgen ac egnïol ar gael ar gyfer cymudo’n ddyddiol a gallant eich rhyddhau oddi wrth rwystredigaeth a thrafferthion tagfeydd traffig.
Mae tua 70% o’r siwrneiau i’r gwaith yng Nghymru a Lloegr yn llai na chwe milltir, ond eto gwneir y mwyafrif mewn car. Ond wrth i ddinasoedd brysuro mwy a mwy, gan lenwi â thraffig, ac wrth i ni droi’n fwy a mwy segur, mae cymudo egnïol o fudd i bawb.
Mae gyrwyr yn fwy tebygol o ddioddef o straen, yn arbennig yn ystod yr oriau brig pan mae’r ffyrdd yn llawn tagfeydd a chanol dinasoedd yn gallu gwylltio’r modurwr tawelaf yn ein plith yn ulw!
Ac nid dim ond tra rydych y tu ôl i’r olwyn fyddwch chi’n teimlo effaith y rhwystredigaeth hwn. Cysylltwyd cymudo mewn car â phwysedd gwaed uchel, tensiwn, perfformiad salach mewn tasgau penodol a hwyliau drwg wedi i’r diwrnod gwaith ddod i ben. Ymhlith y symptomau corfforol mae gwddw stiff, blinder, poen yng ngwaelod y cefn, anhawster i ganolbwyntio a theimlo’n flin.
A dydi’r darlun fawr gwell os ydych yn dewis gadael i rywun arall yrru ar eich rhan. Mae teithio ar fws neu drên yn gwneud i deithwyr fod yn gwbl segur am gyfnodau hir o amser, ac mae swydd y tu ôl i ddesg drwy’r dydd wedyn yn gwneud pethau’n ganmil gwaeth.
SUT?
Mae llwybrau beicio, lonydd beicio, llwybrau di-draffig, croesfannau i gerddwyr a mannau cerdded penodol i gyd yn gwneud beicio a cherdded i’r gwaith yn llawer haws. Dyma un o’r ffyrdd hawsaf hefyd i weithwyr gynnwys gweithgarwch corfforol yn eu diwrnod – mae’n rhaid gwneud y siwrnai a does dim angen unrhyw ymdrech ychwanegol.
Ar gyfer siwrneiau byr sydd rhwng 15 a 30 munud, y gellir eu dyblu wrth deithio ar ffyrdd prysur yng nghanol y ddinas, gall fod yn gynt i gerdded neu feicio ac mae’n llawer brafiach na bod mewn car drwy’r adeg.
OND BETH OS …?
Os ydych yn wynebu siwrnai hir ac anymarferol i’r gwaith, does dim raid i chi ddiystyru cymudo egnïol. Beth am roi cynnig ar ‘barcio a reid’ neu ‘barcio a cherdded’. Parciwch ychydig yn bellach o’r swyddfa a beicio neu gerdded y 10 neu’r 15 munud olaf. Ac os ydych yn dal bws, beth am ddod oddi arno stop neu ddau yn gynharach. Bydd y siwrnai adref wedyn yn eich helpu i gwblhau eich cwota ymarfer am y diwrnod yn gwbl ddidrafferth ac wedyn byddwch yn rhydd weddill y dydd i wneud fel y mynnwch.
MANTEISION?
Byddwch nid yn unig yn elwa o’r manteision amlwg i’ch iechyd ond mae hefyd yn ffordd wych o newid eich meddwl a’i symud oddi wrth eich gwaith, gan leddfu unrhyw straen sydd wedi cronni yn ystod y dydd.
Byddwch yn cyrraedd eich gwaith gyda phen cliriach ac yn barod i fynd heb fod angen coffi na dim arall i’ch annog. Yn y tymor hwy, gallech ddisgwyl gweld eich corff yn fwy siapus a gallech golli pwysau. Hefyd, bydd cyfradd eich calon yn elwa.
Ceir siawns hefyd i chi arbed punnoedd o wariant. Hyd yn oed os mai dim ond £1.20 y dydd ydych chi’n ei wario ar betrol, gallai newid i feicio neu gerdded arbed mwy na £200 y flwyddyn i chi. Ac wrth i gymudo gostio mwy, byddwch yn arbed mwy!
