Chi A’ch Gweithle

Pam Ddylwn i fod yn Egnïol yn y Gwaith?

1. Egni
Mae llawer o bobl yn defnyddio’r esgus eu bod wedi blino gormod dros beidio ag ymarfer, heb sylweddoli mai dyna pam maent wedi blino yn y lle cyntaf fwy na thebyg. Yn hytrach na lladd eich egni, mae ymarfer yn gweithio i’r gwrthwyneb ac yn eich deffro’n llwyr. Felly gall bwrlwm yn ystod amser cinio helpu i oresgyn syrthni canol pnawn.

Straen2. Straen
Mae ymarfer yn ymlacio’r corff a’r meddwl ac yn helpu i leddfu straen y dydd. Dylech allu ymdopi’n well yn eich gwaith a’i chael yn haws i ymlacio wedi i waith y dydd ddod i ben.

3. Cysgu’n Well
Drwy gynyddu eich lefelau gweithgarwch, dylech weld bod eich patrymau cysgu’n gwella. Wedi ymarfer, mae’r corff angen adfer ac rydych wedyn yn cysgu’n brafiach ac yn drymach. Bydd manteision noson dda o gwsg yn amlwg drannoeth a byddwch yn fwy effro ac egnïol drwy’r dydd.

4. Ffocws Meddyliol Cynyddol
Mae unrhyw beth sy’n cynnwys manylder y meddwl – ffocws a chanolbwyntio – yn gwella gydag ymarfer. Gall rhywbeth mor syml â cherdded hyd yn oed glirio’r meddwl, gwella creadigrwydd a helpu i ddatrys problemau.

5. Byw yn Hirach
Mae ymarfer yn rheolaidd yn gallu arafu’r broses o fynd yn hyn a’ch helpu i fwynhau bywyd o safon am flynyddoedd i ddod. Felly cyn belled â’ch bod yn dal ati i fod yn egnïol drwy gydol eich oes yn gweithio a thu hwnt i hynny, byddwch yn elwa o ymddeoliad maith ac iach.

6. Hwyliau Da
Mae gweithgarwch corfforol yn ysgogi endorffinau – yr ‘hormonau hapus’ – felly unwaith rydych wedi cwblhau eich gweithgarwch, dylech deimlo’n dda iawn.

7. Poen Cefn
Mae bod yn heini yn gorfforol o gymorth i chi leihau’r siawns o ddioddef o boen cefn a gwddw, sef un o’r achosion mwyaf cyffredin sy’n arwain at absenoldeb o’r gwaith.

Improves your social life!8. Cymdeithasu
Efallai eich bod yn gweithio yn yr un adeilad, neu’r un swyddfa hyd yn oed, ond mae ein cydweithwyr yn ddieithr i lawer ohonom. Mae ymarfer yn gyfle gwych i gymdeithasu a chymysgu mewn awyrgylch mwy anffurfiol.

9. Imiwnedd
Mae swyddfeydd prysur a gweithleoedd gorlawn yn fagwrfeydd ar gyfer anwydau a firws y ffliw, ond gall ymarfer ddyblu eich siawns i wrthsefyll unrhyw haint. Byddwch yn rhoi hwb i amddiffynfeydd naturiol eich corff cyn iddo gael ei heintio drwy ysgogi cylchrediad y gwaed a gwella swyddogaethau cardiag y corff. Mae ymarfer yn cael gwared ar docsinau o’r corff hefyd, drwy ein hysgyfaint, wrth i ni anadlu’n ddwfn a chwysu.

10. Cywasgu
Os mai dim ond 10 munud sydd gennych i’w sbario, gall gweithgarwch egnïol am gyfnod byr helpu i wella eich gallu i ganolbwyntio a’ch effeithlonrwydd. Bydd yn ailffocysu eich meddwl ac yn gwella safon a swm y gwaith a wneir gennych.