Cynnwys Eich Cydweithwyr
Ydych chi’n arweinydd? Beth am arwain a threfnu rhai gweithgareddau a digwyddiadau ar gyfer eich cydweithwyr – byddant yn siwr o werthfawrogi rhyw ychydig o anogaeth. 
• Trefnwch eich cydweithwyr yn dîm cwmni ar gyfer camp fel pêl droed, pêl foli neu denis. Yn ogystal â chodi ysbryd eich gweithlu, mae chwaraeon yn arf rhyngweithio rhagorol hefyd. Gallech ymuno â chynghrair hyd yn oed, neu – drwy ymuno â sefydliadau eraill – gallech sefydlu eich cynghrair eich hun;
• Mae gweithgarwch yn ystod amser cinio neu ar ôl gwaith, fel cerdded, loncian neu feicio, yn ffordd syml o fod yn egnïol yn ystod eich diwrnod prysur. Pennwch ddyddiad rheolaidd, fel cwrdd â’ch cydweithwyr bob dydd Mawrth a bob dydd Iau am 1pm i gerdded am hanner awr;
• Beth am greu dipyn o fwrlwm ymysg eich cydweithwyr ynghylch gweithgarwch corfforol a rhoi cynnig ar her egnïol i godi arian;
• Dringo’r Grisiau. Oes, mae grisiau yn y rhan fwyaf o swyddfeydd felly beth am osod her i’ch cydweithwyr i ddringo nes cyrraedd copa’r Wyddfa;
• Cystadlaethau / tablau cynghrair – beth am gynnwys dipyn bach o gystadleuaeth ac annog eich cydweithwyr i gymryd rhan mewn tabl cynghrair wrth ymarfer;
• Meddyliwch am her i’ch adran a fydd yn cynnwys pawb, fel y milltiroedd a gerddwyd neu’r munudau a dreuliwyd yn ymarfer. Mae mesur un adran yn erbyn adran arall yn ffordd dda bob amser o annog eich cydweithwyr i wynebu’r her.
