Lillian Evans
Lillian Evans – yn troi cefn ar fynd ar ddeiet
Pan oedd hi ar ei thrymaf, roedd Lillian Evans yn pwyso 25 stôn ar y glorian ac yn gwisgo dillad maint 30. Roedd yn gwybod bod raid iddi newid ei ffordd o fyw.
Gyda chymorth Ffit Gyda’n Gilydd – menter sy’n ceisio cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yn y gweithle – mae Lillian wedi bod yn newid pethau.
"Pan wnes i benderfyniad i golli pwysau, doedd gan hynny ddim byd i wneud ag edrych yn dda neu ffitio mewn ffrog maint llai. Iechyd oedd y prif reswm.
"Rwyf wedi bod dros fy mhwysau erioed, ond roeddwn yn gweld bod pethau bob dydd yn mynd yn llawer mwy anodd wrth i mi fynd yn hyn.
"Sylweddolais ei bod yn amser i mi ofalu am fy iechyd ac ymrwymais i golli pwysau unwaith ac am byth. Troi fy nghefn ar bob deiet fu fy hanes a dechrau bwyta’n gall ac iach … ac fe weithiodd! Er bod colli pwysau wedi bod yn waith anodd, roedd yn gyson.
"Sylweddolais hefyd mai nid deiet yn unig oedd yr ateb ac wrth i mi golli pwysau dechreuais gerdded – roeddwn yn arfer osgoi hynny bob amser. Prynais bedometr a’m nod oedd cerdded 10,000 o gamau bob dydd.
"Mae fy swydd o flaen desg ac rwy’n treulio llawer o amser yn fy swyddfa felly trefnodd Ffit Gyda’n Gilydd deithiau cerdded yn ystod amser cinio yng Nghaerffili a bu hynny o gymorth mawr. Po fwyaf oeddwn i’n cerdded, po fwyaf oeddwn i eisiau cerdded. Roeddwn yn dod yn fwy heini ac roedd hynny’n rhoi hyder i mi roi cynnig ar bethau newydd. Dechreuais ddawnsio llinell, nofio gyda’m hwyrion a dawnsio yn y clwb cymdeithasol.
"Rwyf wedi colli ychydig dros naw stôn yn awr ac mae hynny – ynghyd ag ymarfer yn rheolaidd – wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i’m bywyd bob dydd. Mae gennyf lawer mwy o egni ac rwy’n gallu symud heb golli’m gwynt. Rwyf hefyd yn teimlo’n llawer gwell ynof fy hun ac yn mwynhau mynd allan a byw bywyd llawn."
