Helen Thomas
Helen Thomas – o frwydro’n erbyn ysmygu i fod yn iach!
Roedd ffordd iach Helen Thomas o fyw wedi dechrau dirywio ers iddi roi’r gorau i fod yn hyfforddwr dawns gyda grwpiau ieuenctid a chymunedol.
I wneud iddi deimlo’n fwy euog, roedd y Rheolwr Gwasanaethau 29 oed yn Tesco, Brychdyn, wedi dechrau ysmygu 15 i 20 o siagrennau bob dydd.
Felly pan glywodd Helen am fwriad ei chyflogwr i gael ei staff i fod yn heini, roedd wrth ei bodd yn manteisio ar y cyfle i fod yn hyrwyddwr y gweithle.
"Rydych bob amser yn meddwl am fod yn heini ond mae angen rhywbeth i’ch cymell chi,"meddai. "Rwy’n credu y bydd yn creu cystadleuaeth rhwng y gwahanol adrannau yma – bydd pob un yn ceisio gwneud yn well na’r lleill."
Cyn ymuno â Tesco, roedd helen, sy’n byw yn yrWyddgrug, wedi cwblhau HND mewn dawns. Oherwydd ei hymrwymiadau yn ei gwaith newydd, ni all ddysgu dosbarthiadau mwyach ond mae’n gobeithio y bydd y cyfle i ymarfer yn ystod ei diwrnod gwaith yn gwneud iawn am hyn.
Gyda’r ymgyrch i’w chymell, mae eisoes wedi torri i lawr ar ei hysmygu i dri sigaret y dydd – ac mae’n gobeithio rhoi’r gorau i’r arfer yn llwyr. Mae hefyd eisiau gosod esiampl dda i’w chydweithwyr.
"Mae nifer fawr o’r staff eisoes yn cymryd rhan yn y Ras Fywyd. Bydd hyn yn annog mwy i gymryd rhan a bydd eraill yn colli pwysau er mwyn codi arian ar gyfer ein helusen eleni, Whizzkids," meddai.
"Rwy’n credu y bydd y cynllun yn codi ysbryd y tîm ac yn annog y staff i gydweithio’n well. Bydd yn wych gweld y canlyniadau wedi ychydig o fisoedd."
