Chi A’ch Gweithle

Efallai ein bod yn byw yn hirach y dyddiau hyn ond rydym hefyd yn gweithio’n hirach. Mae’r oedran ymddeol gorfodol wedi cyrraedd 65, sy’n golygu y gall pawb ar gyfartaledd ddisgwyl treulio mwy na 40 mlynedd yn gweithio. Ac allan o’r 40 mlynedd yna, mae siawns y byddwch yn treulio rhyw 10 ohonynt naill ai yn y gwaith neu’n teithio i neu o’r gwaith. Mae hynny’n dychryn rhywun, oni bai wrth gwrs eich bod yn sicrhau cydbwysedd doeth yn eich bywyd.
Waeth beth yw eich swydd a waeth ar ba lefel ydych chi yn y swydd honno, dylai pawb gael cyfle i gyfuno gwaith gyda chyfrifoldebau a dyheadau eraill. Ac ar gyfer y rhai sy’n credu bod yr oriau maent yn eu treulio â’u trwyn ar y maen yn eu hatal rhag bod yn heini ac yn iach, y newyddion da ydi bod ffyrdd ar gael ar gyfer gwneud i weithgarwch corfforol weithio i chi yn y gweithle.
Mae cael hyd i ffyrdd o gynnwys gweithgarwch corfforol yn eich diwrnod gwaith yn prysur droi’n un o’r ffyrdd mwyaf ymarferol o fod yn egnïol a chyrraedd y targed o 30 munud o ymarfer bum gwaith yr wythnos.
Mae hynny nid yn unig yn ymarferol ond, mewn oes sy’n ein galluogi i fyw bywydau cwbl segur os dymunwn, mae hefyd yn hanfodol. Heddiw, mae gweithwyr ar gyfartaledd yn llosgi 2,300 o galorïau y dydd ond byddai ein cyndadau’n defnyddio ryw 5,500. Mae troi unwaith eto at hela i ddal ein bwyd yn gam braidd yn eithafol ond nid yw gofyn i chi gynyddu eich lefelau gweithgarwch dyddiol yn afresymol, yn arbennig o ystyried pa mor syml yw cynnwys rhyw faint o weithgarwch yn eich diwrnod gwaith.
Waeth beth yw eich gwaith, mae’n siwr eich bod wedi dioddef o rai o’r problemau a gysylltir â’r gweithle, yn cynnwys straen, anesmwythyd, blinder, methu canolbwyntio, llesgedd, poen cefn a bos annioddefol!
Y newyddion da ydi nad oes angen stoiciaeth. Ceir digon o gyfleoedd i wella a gall bod yn egnïol eich helpu i gael gwared ar lawer o’r problemau a brofir mewn gweithle – er nad yw’n debygol o wneud eich bos yn berson difyrrach!
Yn yr un modd ag y dywedwyd wrthych am fuddsoddi mewn pensiwn i warchod eich safon byw wedi i chi ymddeol, bydd buddsoddi yn eich iechyd a’ch lles tra rydych yn gweithio yn eich helpu i fwynhau eich bywyd yn well wedi i chi ymddeol.
