Beth i'w wneud nesaf
Drwy weithio gyda ni yn y Cyngor Chwaraeon, mae gennych gyfle euraid i wella lles eich gweithlu. Ac wedyn, byddwch yn gweld gwelliannau ym mhob agwedd ar eich busnes.
Gyda’ch syniadau chi a’n cefnogaeth ni, gallai eich busnes elwa’n fuan iawn o:
- cawodydd, mannau newid a chyfleusterau locer;
- offer chwaraeon, e.e. byrddau tenis bwrdd, pyst badminton ...
- raciau beiciau a chysgodfannau diogel;
- marcio llinellau ar gyfer mannau chwarae neu lwybrau cerdded;
- man gemau awyr agored, ar dir gwastraff neu ddiffaith efallai;
- gym neu ystafell ffitrwydd, yn rhan o swyddfa a adnewyddir;
- trawsnewid gofod dan do yn fan gweithgarwch aml-ddefnydd.
Mae cyllid ar gael yn awr ar gyfer unrhyw weithgaredd sy’n creu gweithlu egnïol. Bydd prosiectau ar raddfa fawr angen peth buddsoddiad cyfalaf ond ar gyfer prosiectau llai, ni fydd raid i chi gael hyd i gyllid cyfatebol.
I gwblhau’r ffurflen gais Gweithle Egnïol cliciwch yma.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda’r swyddfa CChC leol:
Gogledd Cymru – 0845 045 0908
De Ddwyrain Cymru – 0845 045 0904
De Orllewin Cymru – 0845 045 0906
Neu anfonwch e-bost atom yn scw@scw.org.uk
Am wybodaeth bellach am y grantiau a’r cyllid sydd ar gael, cliciwch yma
Edrychwn ymlaen at glywed gennych a gallwch chwithau edrych ymlaen at greu busnes llewyrchus ac iach.
