Bod yn gorfforol yn y gweithle

All ymarfer wneud gwahaniaeth ?

Petai chi'n gallu boteli eu egni, oni byddech yn ei ddosbarthu i'ch gweithwyr?Meddyliwch am aelod mwyaf brwd eich tîm. Yr un creadigol sy’n dod i’r gwaith bob dydd ac yn gallu canolbwyntio drwy’r amser. Yn llawn brwdfrydedd heintus, mae’n ffynhonnell ddiddiwedd o syniadau newydd.

Pe baech yn gallu potelu ei egni, oni fyddech chi’n ei ddosbarthu i’ch gweithlu i gyd?

Pwy bynnag yw’r person hwnnw, mae ef neu hi’n ymarfer yn rheolaidd fwy na thebyg. Y broblem yw, mae hynny’n ei wneud yn lleiafrif yng Nghymru. Mae lefelau isel o egni’n prysur droi’n epidemig cenedlaethol. Ac mae rhai’n dadlau ei fod yn gwneud difrod i’r economi yng Nghymru, gyda 3% o’r staff yn sâl bob amser.

Y broblem yw bod diffyg ymarfer yn gallu arafu’r corff, y meddwl a’r enaid. Ond gallech wneud iawn am hyn yn eich busnes drwy annog eich staff i fod yn fwy egnïol.

Dengys gwaith ymchwil bod gweithwyr yn llawer mwy cynhyrchiol, hyd at 15%, wrth ddechrau ymarfer yn rheolaidd. A phan maent yn gwneud hynny, byddant yn cymryd 27% yn llai o ddyddiau i ffwrdd am eu bod yn sâl.

Gyda rhaglen o weithgarwch corfforol yn eich gweithle, mae gennych siawns hefyd i wella proffil y cwmni. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cydnabod busnesau proactif yn awr gyda’r Safon Iechyd Gorfforedig – felly drwy weithredu byddwch yn masnachu fel cyflogwr cyfrifol a blaengar.

Pa un ai’n ystyried perfformiad eich staff neu ddelwedd eich cwmni, gallai rhaglen ymarfer strwythuredig fod yn ateb addas i chi.

Os yw eich busnes angen hwb ychwanegol, gallai’r Cyngor Chwaraeon wneud gwahaniaeth.