Ein nod
Yng Nghyngor Chwaraeon Cymru, rydym yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno strategaeth Dringo’n Uwch Llywodraeth Cynulliad Cymru – cynllun 20 mlynedd i greu cenedl fwy egnïol drwy estyn allan at gymunedau.
Gyda buddsoddiad ar gael ar gyfer gweithleoedd, grwpiau chwaraeon cymunedol a phrosiectau gweithgarwch awyr agored, nod Gweinidogion yw gweld mwy a mwy o oedolion yn cymryd rhan mewn 30 munud o ymarfer 5 gwaith yr wythnos.
Wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Loteri Genedlaethol, gallai eich rhaglen gweithgarwch corfforol fod yn gymwys am gefnogaeth. Pa un ai ydych angen hyfforddiant, offer neu gymorth gyda chostau adeiladu, gallwn wneud y gwaith o newid eich gweithle i fod yn lle iachach yn haws, gyda chyngor ymarferol a chefnogaeth ariannol.
Erbyn hyn mae’n bur debyg bod gennych lu o syniadau. Gallai eich hen gwpwrdd papur fod yn gawod. Gallai’r ystafell gyfarfod yna nad oes neb yn ei defnyddio wneud ystafell ffitrwydd wych. Neu efallai mai gosod rac beiciau neu brynu ychydig o racedi tenis sy’n addas i chi?
Drwy gydweithio, gallwn gynyddu’r lefelau gweithgarwch yn eich cwmni a chreu gwelliannau ar bob lefel yn eich busnes. Gall gweithlu egnïol arwain at well cynhyrchiant a llai o absenoldeb oherwydd salwch. Gall roi hwb i hyder, ei gwneud yn haws i ddal gafael ar staff a gwella proffil eich cwmni.
A chyda’n cefnogaeth ni, ‘fydd dim rhaid i chi dynnu eich llygad oddi ar y bêl.
