Bod yn gorfforol yn y gweithle
Os yw eich staff yn debyg i staff gweddill Cymru, bydd llai na thraean ohonynt yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Dychmygwch be fyddai’n digwydd pe bai’r ffigwr hwn yn dyblu. Neu’n treblu?
Beth allai ei wneud i ysbryd y staff? Beth fyddai’n digwydd i gynhyrchiant?
Yng Nghyngor Chwaraeon Cymru, mae gennym nod o weld mwy o bobl yn fwy egnïol yn amlach. Gyda chefnogaeth ariannol a chyfoeth o arbenigedd, gallwn helpu i ddatblygu eich syniadau ar gyfer gweithle egnïol a sicrhau bod hynny’n arwain at fusnes hapus ac iach.
I weld sut allwn ni gefnogi eich cynlluniau, dilynwch y cysylltiadau isod:
