CADW’N HEINI I GADW’N IACH

Pa un ai ydych eisiau cadw’n heini er mwyn edrych yn dda yn eich ffrog barti fach ddu, dal eich gafael ar y corff bicini yna rydych wedi gweithio mor galed i’w gynnal drwy’r haf neu ddim ond eisiau teimlo’n ysgafnach ac yn fwy egnïol y gaeaf hwn, y gyfrinach yw gwybod sut i wneud hynny mewn ffordd iach ac – yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni – heb wario gormod!

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi lansio ei ymgyrch newydd, Cadw’n Heini am Geiniog a Dimau, er mwyn helpu i gadw’r wasg yn fain a’r waled yn dew, a hynny yng nghanol cyfnod o ddirwasgiad. Gyda chyfres o awgrymiadau arbenigol defnyddiol ar gael ynghylch opsiynau ymarfer rhad, canllawiau cymell a chyngor hawdd ei lyncu ynghylch maeth, dyma ganllaw diguro ar gyfer colli pwysau tra’n arbed arian!

Ond pam fod bod yn iach mor bwysig?

"Nid dim ond edrych ar eich gorau mae byw bywyd iach yn ei olygu. Gall ymarfer yn rheolaidd a deiet gytbwys eich helpu i wella eich iechyd meddyliol ac emosiynol drwy eich helpu i ymdopi â straen a hybu hapusrwydd, gan wneud i fisoedd y gaeaf ymddangos yn llai o frwydr," eglura Dr Mark Ridgewell, arbenigwr Cyngor Chwaraeon Cymru sy’n helpu i gadw’r dynion a’r merched sydd ar y brig yn y byd chwaraeon yn iach.

Cam 1 – Rhoi’r pethau iawn yn eich corff

Gwybod beth yn union ddylech ac na ddylech fod yn ei fwyta yw hanner y frwydr. Mae eich corff angen deiet gytbwys er mwyn eich cadw’n iach – ac unwaith rydych wedi sicrhau hynny, mae’n hawdd iawn!

"Gwnewch yn siwr eich bod yn llenwi eich prydau gyda fitaminau, maethynnau a mwynau ac yn osgoi cymaint o fwyd dirlawn ag y bo modd, rhag i’ch rhydwelïau gulhau a gorfodi eich calon i weithio’n galetach er mwyn eich cadw i fynd," meddai Kathryn Brown, maethegydd sy’n gweithio i Gyngor Chwaraeon Cymru.

"Dylai eich deiet gynnwys bara, grawnfwydydd a grawn arall yn rheolaidd, yn ogystal â llysiau, ffrwythau, cig (yn cynnwys pysgod, dofednod a wyau) a chynhyrchion llaeth. A pheidiwch ag anghofio nad yw pob braster yn ddrwg i chi – rydych angen rhyw faint o fraster annirlawn fel bod rhai fitaminau’n gallu cael eu hamsugno i mewn i’r corff."

Cymedroldeb sy’n bwysig er mwyn cadw’n iach – nid yw ychydig bach o ddanteithion yn torri’r rheolau bob tro, y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw sicrhau eich bod yn bwyta’r grwpiau priodol o fwyd a symiau priodol ohonynt, ac wedyn byddwch yn cadw’n iach.

Cam 2 – Gwneud y pethau iawn gyda’ch corff

Nid oes raid i feddwl am ymarfer eich atgoffa am brofiadau amhleserus yn sefyll yn eich cit AG ers talwm yng nghanol y glaw ac yn cael eich gorfodi i daflu a dal pêl! Ceir digon o ffyrdd i chi gadw’n heini a fydd yn gwneud i chi nid yn unig golli ychydig o bwysau a chadw eich calon yn iach, ond gallant fod yn hwyl hefyd!

"Mae bod yn heini yn gorfforol yn helpu eich corff i gadw rhag problemau iechyd fel afiechyd y galon a strôc, mae’n annog colli pwysau a rheolaeth ar bwysau ac yn ymestyn eich oes yn gyffredinol – ond mae angen ychydig o benderfyniad a sylw rheolaidd er mwyn gwneud gwir wahaniaeth," eglura Dr Ridgewell.

Yr ymarfer dyddiol a argymhellir ar gyfer oedolion yw pum sesiwn o 30 munud yr wythnos, ond ni ddylech anghofio mai safon yr ymarfer, ac nid faint ydych chi’n ei wneud sy’n cyfrif. Gwthiwch eich hun ar y dyddiau pan ydych yn teimlo gryfaf a phan ydych braidd yn flinedig, cymerwch bethau’n arafach.

Cymysgwch eich trefn ymarfer er mwyn gwneud yn siwr nad ydych yn diflasu nac yn cael eich temtio i roi’r gorau iddi. Gwnewch yn siwr eich bod yn cynnwys gweithgarwch cardiofasgiwlar – fel cerdded yn gyflym, rhedeg ac aerobics – hyfforddiant ymwrthedd – fel pwysau neu ymarferion y corff fel ymarferion gwthio i fyny ac eistedd i fyny – ac ymarferion hyblygrwydd – fel ymestyn neu ioga a gweithgareddau’n seiliedig ar pilates. Bydd y rhain yn sicrhau eich bod yn rhoi sylw i’ch ffitrwydd yn gyffredinol ac yn targedu pob rhan o’ch corff.

Cyfunwch eich trefn ymarfer gyda deiet iach a chytbwys a byddwch ar eich ffordd at fod yn hynod heini!

Cam 3 – Cymerwch seibiant

Mae dysgu i ymlacio’n llwyr a throi cefn ar fywyd bob dydd yn hanfodol er mwyn creu ffordd o fyw iach. Gall cicio’n ôl am awr dawelu’r corff mewn ffordd ryfeddol a bydd yn gweithio tuag at wella iechyd y meddwl. Gwnewch yn siwr eich bod yn cymryd seibiant oddi wrth eich trefn arferol, gan osgoi gadael i straen a thensiwn gronni – gall hynny achosi salwch.

Sefydlwch batrymau cysgu rheolaidd i osgoi diffyg canolbwyntio a niwed i’ch lles corfforol a meddyliol – ceisiwch fynd i’r gwely yr un pryd bob nos a deffro’r un pryd bob bore a chael o leiaf wyth awr o gwsg.

Does dim rhaid i gadw mewn siâp fod yn waith caled ac yn sicr does dim rhaid iddo gostio ffortiwn! Felly nawr eich bod yn gwybod beth ydych angen ei wneud a pham ydych angen gwneud hynny, mae’n amser dechrau symud!

Rydych wedi dod mor bell â hyn felly ymunwch â Cadw’n Heini am Geiniog a Dimau ar Facebook am awgrymiadau ynghylch sut i ddechrau arni, i weld pa mor heini ydych chi ac i ddysgu rhai ymarferion newydd y gallwch eu gwneud yn eich cartref.

Gwnewch yn siwr eich bod yn holi eich meddyg teulu i ddechrau cyn cymryd rhan mewn unrhyw fath o ymarfer a chofiwch, dim ond drwy fwyta deiet gytbwys hefyd y mae sicrhau’r canlyniadau gorau.

Yr wythnos nesaf ... Ydych chi’n cael trafferth cadw at eich trefn ffitrwydd yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni? Peidiwch â syrthio drwy’r rhwyd; bydd Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynnig awgrymiadau rhagorol ynghylch sut i fyw ar gyllideb lai, a gyda gwasg lai!

PUMP MANTAIS YMARFER

1. Llosgi calorïau a cholli pwysau – po fwyaf o galorïau fyddwch chi’n eu llosgi, po iachaf fyddwch chi!

2. Cysgu’n well – mae defnyddio mwy o egni’n cael ei gysylltu â syrthio i gysgu yn unol â’ch cloc chi eich hun yn hytrach na throi a throsi drwy’r nos yn y gwely.

3. Gwella eich agwedd – po fwyaf heini ydych chi, po fwyaf hyderus fyddwch chi a byddwch yn fwy brwdfrydig. Agwedd fwy positif yn gyffredinol at fywyd.

4. Llai o risg o afiechyd a salwch – mae ymarfer cyson yn atal afiechydon fel osteoporosis, pwysedd gwaed uchel a’r clefyd siwgr i enwi dim ond rhai.

5. Gwell hwyliau – mae ymarfer rheolaidd wedi cael ei gysylltu â theimladau o hapusrwydd a lleddfu straen. Byddwch yn edrych yn well yn sgil canlyniadau eich trefn ffitrwydd ac felly’n teimlo’n well.