Resources
Prif-Ffrydio yr Iaith Gymraeg
Ystyr prif-ffrydio yw ystyried yr iaith Gymraeg ym mhob agwedd ar waith Chwaraeon Cymru, er mwyn manteisio ar bob cyfle i:
1. Hybu a chefnogi’r iaith Gymraeg
2. Cyfrannu at weledigaeth y Cynulliad o Gymru gwbl ddwyieithog
3. Cynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau yn y Gymraeg a’r Saesneg
Mae Cynllun Iaith Gymraeg Chwaraeon Cymru yn datgan bod raid i’w bolisi ddatblygu strategaeth "Prif-Ffrydio" ar gyfer yr iaith Gymraeg, yn datgan sut mae’n bwriadu cyflwyno ei ymrwymiadau i’r iaith Gymraeg drwy gyfrwng ei weithgareddau o ddydd i ddydd.
