Amdanom Ni

Awdurdodau Lleol

Yn 2008, sefydlodd Chwaraeon Cymru, drwy gyfrwng gwaith ei Swyddog Datblygu’r Iaith Gymraeg, 3 phrosiect peilot mewn partneriaeth â Chynghorau Ceredigion, Rhondda Cynon Taf a Chonwy.

Er yn eithaf amrywiol o ran natur, prif thema’r gwaith gydag Awdurdodau Lleol fu canfod unrhyw gyfleoedd i wella’r hyn a ddarperir ar hyn o bryd, neu roi sylw i unrhyw fylchau yn yr hyn a gynigir yn y Gymraeg gan y tri awdurdod. Yn ei hanfod, y syniad yw darparu atebion lleol ar gyfer diwallu anghenion lleol a dysgu unrhyw wersi a all fod o gymorth i asiantaethau eraill fodloni’r galw am ddarpariaeth chwaraeon cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.

Amcan y rhaglen yw treialu strategaethau ymyrryd sy’n ceisio naill ai wella’r ddarpariaeth gyfredol neu ddarparu ar gyfer galw heb ei fodloni a heb ei ddatgan. Bydd pob prosiect yn gweithio mewn ffordd a fydd yn sicrhau ei fod yn gynaladwy wrth i’r peilot ddod i ben.

Ar lefel leol, y diben yw creu dull cydweithredol o weithio, drwy gydweithio â sefydliadau iaith Gymraeg yn defnyddio’r arbenigedd a’r adnoddau lleol sydd ar gael gan asiantaethau iaith Gymraeg fel yr Urdd neu’r Mentrau Iaith, er mwyn cefnogi a gweithio mewn partneriaeth â staff Awdurdodau Lleol. Lle bo hynny’n berthnasol, y bwriad yw gweithio gyda phrifysgolion lleol i weithio gyda a defnyddio’r gweithlu posibl o hyfforddwyr / myfyrwyr gwirfoddol Cymraeg eu hiaith sydd ar gael.

A hithau’n ail flwyddyn bellach, bydd tri awdurdod lleol pellach yn dod yn bartneriaid a bydd yr anghenion datblygu chwaraeon lleol, Cymraeg, yn cael sylw. Mae’r ardaloedd eto i’w cadarnhau ar gyfer 2009/2010.

I ganfod beth sydd wedi bod yn digwydd, dilynwch y cysylltiadau isod os gwelwch yn dda:

Conwy

Ceredigion

Rhondda Cynon Taf