Resources
Cydraddoldeb
Gweledigaeth Chwaraeon Cymru ar gyfer Cydraddoldeb
Mae Chwaraeon Cymru’n gwbl ymroddedig i sicrhau cydraddoldeb mewn chwaraeon a hamdden gorfforol. Mae Cynllun Cydraddoldeb Chwaraeon Cymru yn amlinellu ein dull proactif ni o weithio yn y maes hwn. Mae’n datgan ein hymroddiad i weithio tuag at sicrhau cydraddoldeb yn ein holl swyddogaethau, tra’n croesawu ysbryd o ddeddfwriaethau cydraddoldeb a chael gwared ar unrhyw ffurf ar wahaniaethu annheg.
Cynllun Cydraddoldeb Chwaraeon Cymru
Rydym yn credu’n gryf yn egwyddorion cydraddoldeb. Mae newidiadau diweddar i’r deddfwriaethau cydraddoldeb wedi rhoi mwy o gyfrifoldeb ar sefydliadau’r sector cyhoeddus i sicrhau eu bod yn mabwysiadu dull proactif o weithredu mewn perthynas â chydraddoldeb. O’r herwydd, mae Chwaraeon Cymru yn hybu dull corfforedig o ddiweddaru ei Gynllun Cydraddoldeb a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig. Cydnabyddir mai cyfrwng yw’r cynllun i weithredu er mwyn bodloni dyletswyddau cyffredinol a phenodol. Yn y dyfodol, bydd y cynllun yn galluogi i Chwaraeon Cymru ddangos sut mae wedi ymgynghori, sut mae wedi gweithredu a’r canlyniadau mae wedi’u sicrhau.
Mae Cynllun Cydraddoldeb Chwaraeon Cymru yn gyfredol o Fedi 2009 ymlaen. Bydd Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Chwaraeon Cymru yn cael ei ddiweddaru bob mis Ionawr, Mai a Medi.
Asesiadau o Effaith Cydraddoldeb
Yn ystod 2009, cynhaliodd Chwaraeon Cymru Asesiadau o Effaith Cydraddoldeb ar gyfer y chwe swyddogaeth allweddol, yn cynnwys: Campau’r Ddraig, 5x60, CPALl, y Gist Gymunedol, CRhChC ac AChC. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ymestyn yn ystod y blynyddoedd nesaf
Adrodd yn ôl ar Gydraddoldeb
Rydym wedi llunio crynodeb o’n cynnydd mewn perthynas â Chydraddoldeb (Ebrill 2009-Ebrill 2010).
Gwybodaeth bellach
- Am wybodaeth ynghylch y Ddeddf Cydraddoldeb a’r materion Cydraddoldeb ehangach, ewch i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: http://www.equalityhumanrights.com/
- Am fanylion ynghylch y Safon Gydraddoldeb ar gyfer Chwaraeon, ewch i: http://www.equalitystandard.org/
- Dylai CRhC fynd i wefan Cymdeithas Chwaraeon Cymru am wybodaeth benodol ynghylch y Safon Gydraddoldeb ar gyfer Chwaraeon. http://www.welshsports.org.uk/equalityanddiversity.asp
Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag Emma Tobutt, yr Uwch-Swyddog ar gyfer Cydraddoldeb ac Amddiffyn Plant
Ffôn: 029 2033 8285 e-bost: emma.tobutt@chwaraeoncymru.org.uk
