Aelodau'r Cyngor
Chair - Laura McAllister
Daw’r Athro Laura McAllister o Ben-y-bont ar Ogwr ac mae’n Athro mewn Llywodraethu yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Lerpwl. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, ac fe raddiodd o Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Caerdydd, ble cwblhaodd PhD mewn gwleidyddiaeth
Roedd Laura’n aelod o Gomisiwn Richard ar gyfer Pwerau a Threfniadau Etholaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a oedd yn adrodd yn ôl fis Mawrth 2004. Mae prif ddiddordebau academaidd Laura’n canolbwyntio ar weinyddu cyhoeddus a gwleidyddiaeth; yn benodol: datganoli, gweinyddu datganoledig; rôl comisiynau wrth lunio polisïau, gwleidyddiaeth ac etholiadau Cymru, llywodraethu ar lefelau amrywiol, chwaraeon a pholisi cyhoeddus, rhyw a gwleidyddiaeth.
Mae wedi ysgrifennu’n helaeth yn y meysydd hyn ac mae ei llyfrau diweddar yn cynnwys Plaid Cymru, The Emergence of a Political Party (2001), Women and Constitutional Politics in Wales (2007), a bywgraffiad sydd ar y gweill ganddi o’r Arglwydd Dafydd Elis Thomas, Swyddog Llywyddol y Cynulliad Cenedlaethol (2010). Mae’n Athro ymweld ym Mhrifysgol Technoleg Queensland yn Brisbane, Awstralia ac yn Ysgol Weinyddu Genedlaethol Tsieina yn Beijing. Mae Laura wedi gweithio fel dadansoddwr gwleidyddol ar gyfer BBC Wales ac mae’n sylwebydd ar etholiadau yng Nghymru ac ym Mhrydain.
Yn gyn-gapten ar dîm rhyngwladol a chenedlaethol pêl droed Cymru, gyda 24 cap, roedd Laura’n Aelod o Fwrdd UK Sport rhwng 2002 a 2005. Mae wedi bod yn aelod o Gyngor Chwaraeon Cymru ers Ebrill 2006 ac fe’i penodwyd yn Is-Gadeirydd y Cyngor fis Mawrth 2007, lle mae’n arbenigo ar berfformiad a rhagoriaeth, a llywodraethu.
Mae Laura hefyd yn Aelod o Fwrdd ac yn Ymddiriedolai ar gyfer Ymddiriedolaeth Bêl Droed Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n noddwr prosiect ar gyfer DPP ac ar gyfer chwaraeon ym Mhrifysgol Lerpwl ac mae’n cadeirio Grŵp Strategaeth Chwaraeon Lerpwl. Mae’n aelod o banel beirniaid Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Wales.
___________________________________________________________________________________________________
Aelod - Hywel Meredydd
Hywel yw Rheolwr Tearfund Cymru ac mae’n Weinidog yng Nghapel Cildwrn yn Llangefni, Ynys Môn. Am y chwe blynedd diwethaf, mae wedi bod yn Gadeirydd Menter Môn, yr Asiantaeth Adfywio a Menter ar gyfer Ynys Môn. Fel Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn, mae wedi gwasanaethu’r Bwrdd fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Chomisiynu ac ef yw Hyrwyddwr Iechyd Corfforedig y Bwrdd.

Mae wedi bod yn weithgar yn ei ardal ef ar Ynys Môn fel Arweinydd Clwb Beicio Cefni, fel Llywodraethwr yn Ysgol Corn Hir, fel Arweinydd Aelwyd yr Urdd Llangefni, fel Cadeirydd Partneriaeth Llangefni, fel Cadeirydd yr Ymgyrch er Diogelu Cymru Wledig ac fel aelod o Bartneriaeth Datblygu Economaidd Amcan 1 Ynys Môn.
Mae’n briod â Carys, sy’n Gyfarwyddwr Hyfforddi ar gyfer y Mudiad Ysgolion Meithrin. Mae ganddynt ddwy o ferched sydd bellach yn oedolion gydag un yn briod ac yn dysgu yng Nghaerdydd a’r llall yn gweithio gyda Chynnwys Plant a Phobl Ieuainc yng Ngwynedd.
Addysgwyd Hywel yn Ysgol Gyfun Rhydfelen a Phrifysgol Bangor ac mae wedi byw ym Mlaenau Ffestiniog, Y Bala, Cwmafan, Pen-y-bont ar Ogwr a Llangefni. Yn ei gymuned leol, mae Hywel wedi bod yn arweinydd ar Glwb Ieuenctid yr Urdd, yn Gadeirydd Neuadd y Dref yn Llangefni, yn Arweinydd Clwb Beicio Cefni, yn Llywodraethwr yn Ysgol Corn Hir, yn aelod o Bartneriaeth Amcan Un Ynys Môn ac o’r Bartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles.
_______________________________________________________________________________________________________________
Aelod - Richard Palmer 
Daw Mr Richard Palmer CBE o Langwm, Sir Benfro ac ef yw Is-lywydd Gweithredol Cymdeithas Olympaidd Prydain a Chyfarwyddwr Sefydliad Olympaidd Prydain. Ar hyn o bryd, mae'n ddarlithydd MEMOS, rhaglen Gradd Feistr Ewropeaidd ym maes Rheoli Chwaraeon. Mae'n un o gyfarwyddwyr bwrdd Sports Coach UK ac yn Gadeirydd eu Pwyllgor Rheoli Risg a Llywodraethu Corfforaethol.
Mae gan Dick Palmer gefndir helaeth ym maes rheoli chwaraeon, gan gynnwys gweithio fel Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Olympaidd Prydain, rôl y bu ynddi am 20 mlynedd nes ei ymddeoliad ym 1997. Bu'n Chef de Mission Gemau Olympaidd Haf a Gaeaf 1980, 1984, 1988, 1992 a 1996.
Yn ogystal, bu'n Chef de Mission Timau Lloegr yng Ngemau'r Gymanwlad ym 1972, 1982 a 1986. Bu'n Lywydd Cymdeithas Pwyllgorau Olympaidd Cenedlaethol (ANOC), Comisiwn y Gemau Olympaidd a rhoddodd ei wasanaeth i Fwrdd Gweithredol ANOC am 3 tymor (4 blynedd yr un).
Bu'n Is-lywydd Pwyllgor Olympaidd Ewrop ac fe erys hyd heddiw'n Is-lywydd Anrhydeddus yr EOC. Bu hefyd yn aelod o Gomisiwn Marchnata IOC a gwasanaethodd ar Gomisiwn Cydgysylltu yr IOC ar gyfer Gemau Atlanta, Sydney ac Athen ac mae'n un o awduron Canllaw Pentref Olympaidd yr IOC.
Bu Dick hefyd yn Gyfarwyddwr Technegol Cais Llundain am y Gemau Olympaidd yn 2012 ac yn gynghorydd i Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad ar gyfer y Gemau yn Kuala Lumpur, Manceinion a Melbourne.
_______________________________________________________________________________________________________________
Aelod - Adele Baumgardt
Mae Adele Baumgardt yn byw ym Mryste ar hyn o bryd. Tan Hydref 2007 roedd yn gweithio yng Nghaerdydd fel Cyfarwyddwr Polisi a Phartneriaeth y Comisiwn Cyfle Cyfartal yng Nghymru. Mae yn awr yn ymgynghorydd annibynnol sy'n gweithio'n helaeth gyda chyflogwyr yng Nghymru a ledled y DG. Mae'n arbenigwraig ar bob agwedd o ddeddfwriaeth cydraddoldeb. 
Mae Adele yn gweithio gyda mudiadau ar y cyfrifoldebau cadarnhaol newydd ar rhyw, hil ac anabledd a'r gofyniad maent yn rhoddi ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru. O dan y faner hon, mae hi wedi gweithio'n benodol ar faterion sy'n ymwneud â chynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, yn benodol menywod a merched.
Prif faes diddordeb proffesiynol Adele yw prif-ffrydio ar sail rhyw ac yn benodol, offeryn cyllidebu ar sail rhyw sef prif ffrydio ar sail rhyw. Yn 2006, cafodd radd MSc ym maes Cydraddoldeb ac Amrywiaeth o Brifysgol Caerdydd. Mae'n cadeirio Grwp Cyllidebu ar sail Rhyw Cymru, ac yn cydgadeirio Grwp Cyllideb Menywod y DU. Mis Medi 2008 penodir Adele yn Gomisiynydd ar Gomisiwn Cenedlaethol Merched.
_______________________________________________________________________________________________________________
Aelod - Robert Harris 
Mae'r Cynghorydd Robert (Hag) Harris yn byw ac yn gweithio yn Llanbed, lle mae'n berchen ar siop gerddoriaeth a ffilm ac mae wedi cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol. Mae wedi cynrychioli Llanbed ar Gyngor Sir Dyfed ac yna Cyngor Sir Ceredigion ers 1981 ac mae'n aelod o Gyngor Tref Llanbed.
Mae gan Hag Harris brofiad helaeth ym maes llywodraeth leol ac ar hyn o bryd mae'n Aelod Cabinet ar gyfer Adran Dai a Gwasanaethau Amgylcheddol Cyngor Sir Ceredigion, mae'n gadeirydd Cynghrair Iechyd Ceredigion, Her Iechyd Cymru, yn Hyrwyddwr Ceredigion, mae'n Aelod o Fwrdd Iechyd Ceredigion, yn gadeirydd Fforwm Digartrefedd Ceredigion, yn gadeirydd Bwrdd Llysoedd Dyfed Powys ac yn aelod o Bwyllgor Rheoli Pwll Nofio Llanbed. Mae wedi bod yn Faer Cyngor Tref Llanbed ac yn gadeirydd Cyngor Chwaraeon Ceredigion.
Bu Robert Harris yn Hyfforddwr Cyfeiriannu Cenedlaethol Cymru ac yn Bencampwr Hyn gan gynrychioli Cymru a bu hefyd yn ddyfarnwr pêl-droed gyda 15 mlynedd o brofiad gan gynnwys Cynghrair Pêl-droed.
_______________________________________________________________________________________________________________
Aelod - David Lloyd Roberts
Mae David Lloyd Roberts yn bartner yng nghwmni cyfraith Huw James yng Nghaerdydd. Fe’i ganed ym Mangor a’i addysgu yn Wrecsam a
Chaergrawnt. Bu’n bencampwr sbrintio Cymru ar naw achlysur, a chynrychiolodd Brydain dros 100 metr ac yn y ras gyfnewid 4 x 100 metr ym Mhencampwriaethau Ewrop rhwng 1974 a 1978, gan gynrychioli Cymru yng Ngêmau’r Gymanwlad hefyd.
Mae’n aelod o Glwb ‘Hawks’ Prifysgol Caergrawnt a Chlwb Golff Brenhinol Porthcawl. Nid yw Mr Roberts wedi ei benodi gan Weinidog i unrhyw swydd gyhoeddus arall ar hyn o bryd.
_______________________________________________________________________________________________________________
Aelod - Dr Wynford Morgan Leyshon
Bu Dr Wynford Leyshon yn cynrychioli Cymru fel athletwr yng Ngêmau’r Gymanwlad yn Seland Newydd ym 1974, a bu’n cynrychioli Prydain Fawr hefyd. Yn ystod Gêmau Myfyrwyr y Byd ym Moscow ym 1973, enillodd fedal arian yn y ras gyfnewid 4x400m.
Mae’n hyfforddwr athletau lefel 4 perfformiad uchel, ac mae wedi hyfforddi nifer o neidwyr clwydi 400m sydd wedi ennill medal ym mhencampwriaethau Cymru, y DU ac Ewrop. Fe’i haddysgwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n gyn Is-bennaeth ar Goleg Castell-nedd Port Talbot. Bu’n Gadeirydd ar Gymdeithas Athletau Ysgolion Cymru a Bwrdd Athletau Rhyngwladol Ysgolion.
Yn 2007, enillodd wobr deilwng am ei wasanaethau i Athletau yng Nghymru, ac mae’n aelod o Glwb Athletau Harriers Abertawe a Chlwb Cerdded ‘Mawr’ (a leolir yn Felindre, Abertawe). Yn ystod 2008 derbynodd Medal y Canghellor oddi wrth Prifysgol Morgannwg am 'Wasanaeth i'r Gymuned a Pobl Cymru i ddatblygu darpariaeth Addysg Uwch yn Nedd Port Talbot'.
Nid yw Dr Leyshon wedi ei benodi gan Weinidog i unrhyw swydd gyhoeddus arall ar hyn o bryd.
_______________________________________________________________________________________________________________
Aelod - Martin John Warren
Cafodd Martin Warren ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd, ac yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Uwchradd Caerdydd bu’n chwarae criced dros Gymru, gan fynd ymlaen i gynrychioli Clwb Criced Caerdydd am 12 blynedd. Fe’i haddysgwyd ym Mhrifysgol Hull, a bu’n cynrychioli’r brifysgol yng nghampau pêl-droed a chriced. 
Dychwelodd i Gaerdydd i ymuno â Deloitte, Haskins & Sells (PWC erbyn hyn), lle daeth yn gyfrifydd siartredig, a daeth yn gymrawd Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig ym 1989. Ar hyn o bryd, Martin yw Cyfarwyddwr Cyllid UWIC.
Am 5 mlynedd, bu Martin yn gadeirydd ar glwb pêl-droed UWIC Inter Caerdydd, gan drefnu uno clybiau UWIC ac Inter Caerdydd yng Nghynghrair Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n Gadeirydd ar Fenter yr Ifanc Caerdydd a’r Fro, ac yn aelod o Fwrdd Menter yr Ifanc Cymru. Nid yw Mr Warren wedi ei benodi gan Weinidog i unrhyw swydd gyhoeddus arall ar hyn o bryd.
___________________________________________________________________________________________________________
Aelod - Stella Mair Thomas
Ymgynghorydd Cyfathrebu/y Cyfryngau sy’n gweithio ar ei liwt ei hun yw Stella Mair Thomas, a chanddi brofiad ar lefel Bwrdd yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, a hynny yng Nghymru’n bennaf. Mae ganddi brofiad o swyddi uwch ym meysydd: twristiaeth, marchnata, y wasg a chysylltiadau cyhoeddus, llywodraethu corfforaethol, rheoleiddio teledu a chynrychioli defnyddwyr. 
Dechreuodd Mrs Thomas, sy’n siarad Cymraeg, ar ei gyrfa fel athrawes Addysg Gorfforol a Daearyddiaeth yn Sir Frycheiniog, gan arbenigo mewn addysgu pobl ifanc i nofio. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn yr her i Gyngor Chwaraeon Cymru o gyrraedd targedau ar gyfer gweithgaredd corfforol ym mhob grŵp oedran, fel y nodir yn strategaeth Dringo’n Uwch Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Mrs Thomas hefyd yn Gyfarwyddwr anweithredol ar Stadiwm y Mileniwm, ac mae’n cynrychioli Cymru ar Fwrdd Passenger Focus, y corff defnyddwyr i deithwyr rheilffyrdd ym Mhrydain Fawr. _______________________________________________________________________________________________________________
