Amdanom Ni

Dringo'n Uwch

Mae ‘Dringo’n Uwch’ yn gosod disgwyliadau llawer ehangach ar gyfer arian cyhoeddus i chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng nghyd-destun agenda strategol y Cynulliad a pholisïau strategol eraill ar gyfer iechyd, pobl hyn, cynnwys yn gymdeithasol, etc. Y safon a dderbynnir yn rhyngwladol ar gyfer gweithgarwch corfforol iach yw ‘5x30’ (hanner awr o weithgarwch corfforl cymedrol bum niwrnod yr wythnos o leiaf) ar gyfer oedolion a ‘5x60’ ar gyfer plant. Nid yw gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn union yr un peth – gall cerdded, beicio, gwaith ty a gwaith corfforol gyfrannu at sicrhau ‘5x30 / 5x60’, yn union fel chwarae pêl droed neu denis neu fynd i’r gym.

Gellir cynnal gweithgarwch corfforol mewn sefyllfaoedd amrywiol, yn cynnwys chwaraeon trefnus a chystadleuol a gweithgarwch ‘chwarae’ a hamdden llai ffurfiol, ond eto’n drefnus. Mae hefyd yn digwydd drwy gyfrwng hamdden egnïol, er enghraifft, cerdded, loncian, beicio, aerobics neu ddawns ac fel sgil-gynnyrch i weithgareddau byw’n egnïol eraill, yn cynnwys teithio egnïol, gwaith ty, garddio a galwedigaeth.

Bydd rôl y Cyngor yn y sbectrwm gweithgarwch corfforol yn amrywio. Wrth reswm, mae ein harbenigedd a’n profiad o weithio gyda chwaraeon ar bob lefel yn golygu y byddwn fwyaf egnïol yn ein gweithgareddau craidd, gan arwain er mwyn cael effaith ar rwydweithiau a phartneriaethau lleol. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn cefnogi datblygiad hamdden egnïol drwy gyfrwng ein rhaglenni ymyrryd, ac yn gweithio’n agos gydag asiantaethau eraill fel Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Comisiwn Coedwigaeth mewn perthynas â gweithgareddau awyr agored.

Dosbarthiad y Loteri - Ychwanegolrwydd:

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru'n ymroddedig i'r egwyddor o ychwanegolrwydd, fel a ddiffiniwyd gan Ddeddf y Loteri Genedlaethol 1993. Fel rhan o'i waith fel dosbarthwr y loteri, bydd yn dangos annibyniaeth y penderfyniadau cyllido ac yn gwarchod y gwahaniaeth rhwng gwariant craidd y Llywodraeth a chyllid y loteri.