Dringo'n Uwch
Cyflwyno ‘Dringo’n Uwch’ – Cymru Iachach, Mwy Egnïol a Chynhwysol
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n datgan polisïau a blaenoriaethau chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar gyfer gweithredu ei strategaeth (Dringo’n Uwch). Mae’r rhain yn canolbwyntio ar gynyddu cyfraddau cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol a sicrhau llwyddiant yn y byd chwaraeon ar Lwyfan y Byd. Cyngor Chwaraeon Cymru yw prif asiant cyflwyno Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gweithredu strategaeth Dringo’n Uwch. Mae’n datblygu ac yn gweinyddu rhaglenni sy’n cyflwyno polisïau’r Llywodraeth ac yn trosi’r strategaeth yn weithredu.
Fel ymateb i’r her a osodwyd gan strategaeth ‘Dringo’n Uwch' y Cynulliad, lansiwyd fframwaith newydd ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol gan Gyngor Chwaraeon Cymru yn 2005. Mae’r fframwaith hwn yn newid swyddogaeth y Cyngor, o fod yn ddosbarthwr cyllid yn bennaf i fod yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar fod yn ‘Asiantaeth Ddatblygu’, yn esgor ar ganlyniadau penodol yn unol â pholisi’r Llywodraeth.
Bydd y ffocws ar farchnata gweithgarwch corfforol, adfocatiaeth a blaengaredd wrth ddatblygu rhaglenni. Yn arbennig, mae’n hyrwyddo cefnogi pobl drwy hyfforddi a chefnogi sefydliadau a datblygu a gwerthuso arfer dda.
Mae’n rhaid i chwaraeon a gweithgarwch corfforol gael eu hailfrandio a’u pecynnu’n wahanol er mwyn apelio at fwy o bobl. Mae hamdden yn farchnad orlawn y dyddiau hyn ac mae ymarfer yn cystadlu gyda llu o weithgareddau eraill am amser pobl, ond ychydig o gystadleuwyr sydd â rhywbeth mor unigryw i’w gynnig wrth werthu eu cynnyrch; mae gweithgarwch corfforol yn hwyl ac yn eich galluogi i fyw’n hirach!
Rydym yn gwybod oddi wrth ymgyrchoedd fel y rhai i leihau nifer y bobl sy’n ysmygu ac i hybu rhyw diogel bod y negeseuon hyn yn cael eu derbyn yn gyflym gan rai grwpiau cymdeithasol ond, i eraill, yn arbennig pobl mewn ardaloedd difreintiedig, mae’r dasg yn fwy heriol. Bydd addasu negeseuon a gweithgareddau i amgylchiadau lleol yn eithriadol bwysig, ac felly hefyd datblygu dealltwriaeth o’r broses a’r elfennau a berthyn i newid ymddygiad mewn gwahanol gyd-destunau cymdeithasol.
