Amdanom Ni

Amdanom Ni

Cyngor Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a ffyrdd o fyw egnïol. Ef yw prif gynghorwr Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â materion yn ymwneud a chwaraeon ac mae’n gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol i chwaraeon yng Nghymru.

Mae’r Cyngor yn cyd-fynd yn llwyr â gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cenedl gorfforol yn egnïol a chenedl sy’n mwynhau chwaraeon, fel a amlinellir yn ei dogfen strategaeth, 'Dringo’n Uwch’. Prif ffocws y ddogfen yw cynyddu amledd y cymryd rhan drwy ddarbwyllo’r rhai nad ydynt yn gwneud unrhyw weithgarwch ar hyn o bryd i fod yn egnïol ac annog pobl, hen ac ifanc, i ddatblygu portffolio o weithgareddau er mwyn sicrhau lefelau gweithgarwch iach.

Y themau yng ngwaith y Cyngor yw:

Mae gan y Cyngor Gadeirydd (Mr Philip Caning), ls-Gadeirydd (Dr Laura McAllister) a 9 aelod arall, yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Fe’u penodir am dymor o dair blynedd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan y Cyngor gyfanswm cyffredinol o 183 o weithwyr, yn y tri rhanbarth ac yn y ddwy ganolfan genedlaethol sy’n eiddo i’r Cyngor:

  • Caerdydd (Pencadlys a Swyddfa’r De Ddwyrain) - 91 o weithwyr
  • Swyddfa Glannau Dyfrdwy (Y Gogledd Ddwyrain) - 2 o weithwyr
  • Swyddfa Caerfyrddin (Y De Orllewin ) - 5 o weithwyr
  • Swyddfa Caernarfon (Y Gogledd Orllewin) - 3 o weithwyr
  • Canolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol Plas Menai, Caernarfon - 20 o weithwyr
  • Athrofa Chwaraeon Cymru, Caerdydd - 62 a weithwyr

Ar ddechrau 2005 cyhoeddodd y Gweinidog Diwylliant, yr laith Gymraeg a Chwaraeon strategaeth chwaraeon a gweithgarwch corfforol Llywodraeth y Cynulliad, ‘Dringo’n Uwch’.

I gefnogi ‘Dringo’n Uwch’ mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi ‘Fframwaith ar gyfer Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol’. Bydd y ddogfen hon yn sail i weledigaeth y Gweinidog ac mae’n datgan sut fydd Cyngor Chwaraeon Cymru’n gweithio i wireddu ei ddymuniadau. Byddwn yn cydweithio mwy fyth gyda’r Llywodraeth a chyda phartneriaid eraill er mwyn datblygu dulliau blaengar o weithredu, ar sail tystiolaeth, er mwyn creu Cymru egnïol.

Mae’r Fframwaith yn datgan y bydd Cyngor Chwaraeon Cymru’n newid o fod yn rheoli grantiau chwaraeon, drwy farchnata gweithgarwch corfforol, hybu chwaraeon a datblygu rhaglenni arloesol. Yn arbennig, bydd yn cefnogi pobl drwy hyfforddi a chefnogi sefydliadau i ddatblygu a gwerthuso arfer dda (gweler isod).