RhCT YN BOD YN EGNÏOL – MEWN FFORDD FILWROL!

26 Ion 2010

Mae cymunedau ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf wedi darganfod y gyfrinach ar gyfer dal ati a glynu at eu nodau ffitrwydd – mynd am dro i’r parc lleol a chael rhywun yn gweiddi ‘gollwng a rhoi 20’ arnynt!

Drwy gyfrwng cefnogaeth gan Gyngor Chwaraeon Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae Outdoor Fitness Cyf. wedi recriwtio llu o bobl ar hyd a lled y sir i’w rhoi eu hunain yn nwylo arbenigwyr cymwys llawn cymhelliant er mwyn ymarfer - fel milwyr!

Mae hyfforddwyr niferus, gyda rhai ohonynt wedi bod yn y fyddin, yn arwain dosbarthiadau yn eu parciau lleol gyda driliau sy’n cynnwys cymysgedd o ymarferion cardio, fel rhedeg a cherdded, ac ymarferion siapio’r cyhyrau – y cyfan gan ddefnyddio’r offer sydd ar gael yn yr awyr agored.

Meddai Jeff Webb, Cyfarwyddwr Cwmni Outdoor Fitness Cyf. wrth geisio egluro’r meddylfryd sydd wrth wraidd y dull ffitrwydd poblogaidd hwn,

"’Cadw pethau’n syml yw ein hagwedd at hyfforddiant ffitrwydd, gan fynd â phobl allan o leoliad traddodiadol y gym. Does dim angen unrhyw offer ffansi, y cyfan rydym yn ei wneud yw defnyddio pwysau eich corff, ambell arf henffasiwn a’r amgylchedd naturiol fel eich campfa, a thrwy beidio â gadael unrhyw ôl troed carbon, rydym yn gwarchod yr amgylchedd ar yr un pryd!"

Dyma Caroline Spanton, y Rheolwr Datblygu Chwaraeon yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, i siarad am sut mae’n gweithio yn yr ardal,

"Yr hyn sy’n ysbrydoledig yn RhCT yw amrywiaeth y cyfranogwyr sy’n cymryd rhan ac sy’n dychwelyd wythnos ar ôl wythnos, heb boeni dim am y glaw, yr oerni na’r eira! Rydym nid yn unig yn denu’r rhai sy’n mwynhau mynd i’r gym ac sy’n mwynhau chwaraeon ond hefyd nifer fawr o bobl nad ydynt wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ers sbel ac sydd eisiau cadw’n heini, colli pwysau, bod yn yr awyr agored, siapio a chwrdd â phobl newydd. Mae’r agwedd gymdeithasol wedi bod yn allweddol ac mae’r ysbryd o dîm yn cynnal pawb ac yn eu cymell i’w gwthio eu hunain."

Ac mae’r prawf yn y pwdin ar gyfer un o bobl RhCT. Mae Sean-Eleri Jones wedi bod yn defnyddio aerobics i gadw’n heini ers peth amser ac wedi colli llawer o bwysau yr un pryd, ond wedi cyfnod, roedd yn cael trafferth ei chymell ei hun i ddal ati ac roedd yn teimlo bod cadw ei phwysau rhag mynd i fyny ac i lawr yn frwydr fawr – nes iddi ymuno ag Outdoor Fitness.

"Roedd fy nghariad yn canmol y sesiynau ers misoedd ac yn sôn am yr holl bobl yr oedd wedi cwrdd â hwy a’r ymarferion amrywiol yr oedd wedi cymryd rhan ynddynt felly fe es draw i weld. Doedd dim posib ei fod mor anodd ag yr oedd ef yn ei ddweud. Roeddwn i’n anghywir!," meddai Sean. "Yn ystod fy sesiwn cyntaf fe redais am 20 munud ac yna cerdded am weddill y sesiwn; roedd yn anodd iawn ond roeddwn yn cael fy annog gymaint gan yr hyfforddwr a chan y bobl o’m cwmpas fel fy mod wedi dal ati. Fe es yn ôl i ragor o sesiynau ac wedi ychydig fisoedd fe sylweddolais nad oeddwn yn rhedeg y tu ôl i bawb bellach, a’m bod yn gallu rhedeg am y sesiwn cyfan! Roedd hyn yn hwb mawr i mi ac roeddwn yn ymarfer mwy a mwy."

"Mae awyrgylch sesiynau Outdoor Fitness Cyf. yn un hwyliog a theuluol. Rydych yn ymarfer gyda phobl debyg i chi eich hun ac maent i gyd eisiau cadw’n heini a bod yn iach. Rwyf wedi colli 4 stôn yn awr ac rwy’n ymarfer deirgwaith yr wythnos o leiaf ac wrth fy modd. Dyma’r peth gorau i mi ei wneud erioed!"

Mae Outdoor Fitness Cyf. wedi ymuno â rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn awr er mwyn gwneud i gadw’n heini yn y ffordd filwrol fod yn haws a mwy hygyrch i bobl. Mae cynlluniau fel rhaglen Stretch Caerdydd a rhaglen More RhCT yn cynnig gostyngiadau ar sesiynau yn eu hardaloedd.

Felly os ydych yn awyddus i gofrestru a chael eich cyfarwyddo i siapio, ewch i wefan www.outdoorfitnessltd.com er mwyn gweld beth sy’n digwydd o’ch cwmpas. Hefyd gallwch gofrestru ar gyfer eu hachlysur nesaf, a gynhelir ar Ionawr 31ain ar dwyni tywod Merthyr Mawr – allwch chi wynebu’r her?