Gwahoddiadau ar gael ar gyfer Taith yr Her

7 Ion 2010

Heddiw, fe agorodd Cwpan Ryder Cymru y broses ymgeisio am wahoddiadau i chwarae ar Daith Her Ewrop 2010.

Am y seithfed flwyddyn yn olynol, mae Cwpan Ryder Cymru wedi trafod telerau gwahoddiadau yn benodol i golffwyr proffesiynol ifanc talentog Cymru chwarae mewn twrnameintiau ledled Ewrop. Gyda 7 gwahoddiad ar y mwyaf ar gael, maen nhw’n cynnig cyfle amhrisiadwy i’r chwaraewyr wella’u safleoedd ar y tabl golffwyr, ac fe fydd llwyddiant ar Daith yr Her yn eu cymhwyso ar gyfer y Daith Ewropeaidd Lawn.

Mae gan Gwpan Ryder Cymru, mewn partneriaeth ag Undeb Golff Cymru a rhaglen Élite Cymru Cyngor Chwaraeon Cymru, raglen ddatblygu integredig i helpu golffwyr ifanc Cymru, ac mae chwarae ar Daith yr Her yn rhan bwysig o’r fenter honno.

"Mae Rhys Davies, sy’n ddyn ifanc talentog dros ben, wedi dangos sut i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn gyda gwaith caled ac ymrwymiad mawr," esboniodd John Jermine, Cadeirydd Cwpan Ryder Cymru.

"Roedd yn rhan o system hyfforddi Cymru a sefydlwyd gan Undeb Golff Cymru gyda chefnogaeth gref y Cyngor Chwaraeon, ac mae’n fodel rôl i chwaraewyr talentog eraill. Fe fydd pawb yng Nghymru’n mwynhau gwylio’i gynnydd ar y Daith Ewropeaidd yn 2010, ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddo. Rydyn ni’n gobeithio y bydd chwaraewyr Cymru sy’n cael eu gwahodd i Daith yr Her 2010 yn dilyn ei esiampl ac yn cael llwyddiant tebyg."

Yn 2009, rhoddwyd 26 gwahoddiad i 7 o chwaraewyr Cymru, gan gynnwys Rhys a gafodd ei fuddugoliaeth gyntaf erioed ar Daith yr Her yn Her SWALEC Cymru a gynhaliwyd yng Ngwesty, Cyrchfan Golff a Sba y Vale fis Gorffennaf.

Yna, yn sgil llwyddiant Rhys yng Nghymru, aeth ymlaen i berfformio’n wefreiddiol yn Her de España Fred Olsen ar yr Ynysoedd Dedwydd fis Medi a’i hennill, a gorffen y flwyddyn yn y pedwerydd safle ar dabl y cystadleuwyr yn gyffredinol.

"Mae’r cyfleoedd y gwnaeth Cwpan Ryder Cymru eu sicrhau wedi cyfrannu’n sylweddol at fy llwyddiant," meddai Davies. "Yn 2008, yn syth o’r rhengoedd amatur, nid oeddwn i’n gwybod yn iawn beth i’w ddisgwyl. Oherwydd y gwahoddiadau i Daith yr Her a gefais y flwyddyn honno, roedd gen i well syniad o’r hyn a oedd i’w ddisgwyl, ac fe roddais y wybodaeth honno ar waith yn 2009. Roeddwn i wrth fy modd o ennill fy muddugoliaeth gyntaf ar Daith yr Her yng Nghymru, ac rwy’n gobeithio y bydd chwaraewyr eraill yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael."

Meddai Philip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru: "Mae hyn yn enghraifft wych o sut mae ein golffwyr mwyaf addawol yn cael budd o gystadleuaeth Cwpan Ryder. Mae gan Gymru draddodiad balch o lwyddiant golff, ac fe fydd y gwahoddiadau hyn yn helpu’r genhedlaeth nesaf o enwau cyfarwydd i wneud argraff ar lwyfan y byd."

Mae gofyn i chwaraewyr sy’n dymuno gwneud cais am wahoddiadau Taith yr Her gyflwyno ffurflen gais, sydd nawr ar gael trwy anfon e-bost at Rhys Phillips - rhys.phillips@rydercupwales2010.com. Gellir dychwelyd y ffurflen yn electronig neu drwy’r post. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner dydd Dydd Iau, 21ain Ionawr 2010.

Ar ben hyn, bydd Cwpan Ryder Cymru, am y tro cyntaf, yn cynnal rownd cyn-gymhwyso ar gyfer Her SWALEC Cymru 2010, gyda nifer gyfyngedig o leoedd ar gael. Fe fydd y rhain ar agor i chwaraewyr cymwys Cymreig nad ydynt fel arall wedi cymhwyso, a chynhelir y rownd Ddydd Llun, 23ain Awst yng Ngwesty, Cyrchfan Golff a Sba y Vale. Bydd mwy o wybodaeth ar gael am hyn maes o law.