CYN-OLYMPIAD YN LLONGYFARCH PEN-Y-BONT AR OGWR

9 Rhag 2009

Cafodd gymnastwyr ieuainc addawol Pen-y-bont ar Ogwr eu hysbrydoli heddiw gan un o athletwyr mwyaf llwyddiannus Prydain ac Aelod o Fwrdd Llundain 2012, Jonathan Edwards CBE, wrth iddo ymweld ag Ysgol Gyfun Pencoed.

Ar ymweliad â Chymru i gyfarfod Cyngor Chwaraeon Cymru, aeth y cyn-Olympiad a’r cyn-bencampwr Cymanwlad a Byd yn y naid drebl heibio i Bencoed i ddarganfod y cynhwysyn cudd sy’n cael pobl ieuainc yr ardal i fflipio a neidio at lwyddiant.

Bu bechgyn rhwng pedair a 18 oed o Glwb Gymnasteg Pencoed yn dangos yn union beth maent yn gallu ei wneud iddo mewn arddangosfa 15 munud, ac yna cafwyd perfformiuad unigol gan Bencampwr Cymru, Ben Dennis.

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi ymroi hyd at £29,000 o gyllid er mwyn meithrin talentau gymnasteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r buddsoddiad wedi cael ei roi tuag at hyfforddi mwy o hyfforddwyr i safon uwch, er mwyn ymdopi â’r galw am y gamp ar lefel gyffredin. Eisoes mae mwy na 400 o ieuenctid, a arferai fod ar restri aros, yn cymryd rhan yn y gamp erbyn hyn.

Mae adroddiadau diweddar wedi datgelu bod safon y gymnasteg ledled ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwella, ac mae’n dal i wella. Yr hyn sy’n rhannol gyfrifol am hyn yw’r modd y mae’r Cyngor Chwaraeon wedi gweddnewid y gwersi AG. Mae wedi camu i’r adwy er mwyn sicrhau bod athrawon yn fwy hyderus wrth gyflwyno chwaraeon technegol fel gymnasteg a sicrhau bod y gwersi’n rhai hwyliog a diddorol i’r disgyblion.

Meddai Prif Weithredwr Cyngor Chwaraeon Cymru, Huw Jones:

"Drwy gydweithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Gymnasteg Cymru, mae strwythurau yn eu lle bellach er mwyn galluogi i’r ieuenctid sy’n cymryd eu camau cyntaf i mewn i’r gamp ddatblygu, parhau i gymryd rhan a symud i fyny drwy’r rhengoedd. Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi’r cyfleoedd gorau i’r ieuenctid brwd lwyddo, fel eu bod yn parhau i fod yn egnïol pan yn oedolion ac efallai, rhyw ddydd, y bydd rhai ohonynt yn cynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol."

Ac mae gennym brawf digamsyniol o hyn. Mae aelod o Glwb Gymnasteg Pencoed, Ben Dennis, yn Bencampwr Cymru ar hyn o bryd ar gyfer disgyblaethau’r cylchoedd a’r barrau cyfochrog. Yn aelod rheolaidd o sgwad hyfforddi Gemau’r Gymanwlad, mae’n wir addewid ar gyfer cipio medalau i Gymru yn y dyfodol.

Meddai Jonathan Edwards, Dirprwy Gadeirydd Grŵp Cenhedloedd a Rhanbarthau Llundain 2012:

"Rydym eisiau gweld mwy o blant a phobl ieuainc yn cymryd rhan mewn chwaraeon gyda chyfleusterau ysgolion ar agor a hyfforddwyr ar gael i’w cymell a’u cefnogi hwy. Mae’n ysbrydoledig gweld safon y gymnasteg a gyflwynir ar hyn o bryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae’n galonogol bod yn dyst i’r ardal yn chwarae ei rhan mewn sicrhau bod ei myfyrwyr a’i chymunedau’n croesawu Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012."

Meddai’r Cynghorydd Lyn Morgan, Aelod Cabinet dros Les yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

"Mae gennym gyfoeth o dalent chwaraeon yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac rydym yn ymroddedig i ddatblygu athletwyr y dyfodol.

"Gyda Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 yn prysur agosáu, mae grŵp llywio wedi cael ei sefydlu sy’n ceisio adeiladu ar dreftadaeth chwaraeon yr ardal, gan ysbrydoli’r gymuned leol i fod yn fwy egnïol ac annog y bobl leol i groesawu’r Gemau fel achlysur cenedlaethol pwysig."