DADORCHUDDIO'R IAITH GYMRAEG AR WEFAN YR UNDEB RYGBI
30 Tach 2009
Datgelwyd cynnydd sylweddol yn y deunydd cyfrwng Cymraeg fydd ar gael ar wefan swyddogol Undeb Rygbi Cymru.
Rhoddwyd mwy o wybodaeth gyfangwbl Gymraeg ar y wefan fel y gall ymwelwyr â’r safle wru.co.uk ddewis pa iaith y dymunant ei darllen.
Mae llawer o’r ffeiliau sydd wedi’u cyfieithu yn wybodaeth statig neu ddiamser sydd ar gael yn barhaol ar y wefan ac yn ogystal mae rhai pytiau newyddion yn ymddangos yn yr iaith Saesneg ac yn yr iaith Gymraeg.
Mae Undeb Rygbi Cymru bellach wedi ymrwymo i barhau i ychwanegu at swmp y cynnwys Cymraeg sydd ar gael ar y wefan swyddogol yn y blynyddoedd i ddod.
Cwblhawyd y prosiect cyfieithu gyda chymorth a chefnogaeth lawn Cyngor Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’n rhan o flaengarwch URC i fabwysiadu polisi gweithredol sy’n sicrhau y gall siaradwyr Cymraeg ddod i wybod mwy am gamp genedlaethol Cymru drwy’u hiaith frodorol.
Bydd unrhyw un sydd nawr yn cael mynediad i wefan URC yn gallu parhau i ddarllen tudalennau yn Saesneg neu droi at fersiwn sydd yn y Gymraeg yn bennaf gyda dewis lle mae’r cynnwys ar gael yn y Gymraeg.
Mae’r botymau â’r llythrennau ENG neu CYM yn ymddangos ar frig ochr chwith y ddewislen ar hafan y safle.
Mae rhaglen gyfieithu sy’n canolbwyntio ar y wybodaeth statig ar y safle wedi mynd rhagddi dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ehangwyd y rhaglen beilot i gynnwys llawer o’r newyddion cyfoes diweddaraf ar gyfer cefnogwyr rygbi yng Nghymru neu siaradwyr Cymraeg ledled y byd.
Cyfieithwyd penawdau, capsiynau darluniau, a dogfennau cyfain i sicrhau y gall siaradwyr Cymraeg weithredu’r system yn eu hiaith eu hunain.
Y cynllun cyfieithu gwefan yw uchafbwynt tri phrosiect ddaeth i fodolaeth drwy Gyngor Chwaraeon Cymru.
Golygai’r blaengaredd cyntaf greu cyhoeddiadau a rhaglenni yn yr iaith Gymraeg ar gyfer Pencampwriaeth Iau’r Byd a gynhaliwyd yng Nghymru yn ystod Mehefin 2008.
Gwelodd yr ail brosiect ailwampio arwyddion yn yr iaith Gymraeg o gwmpas Stadiwm y Mileniwm sy’n denu un filiwn o ymwelwyr bob blwyddyn.
Nawr mae URC yn cyflwyno mwy o gynnwys fideo i’w gwefan swyddogol a bydd yn y dyfodol yn cynnwys adroddiadau yn yr iaith Gymraeg.
Meddai Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: "Rydym wrth ein boddau i allu profi’n hymrwymiad i’r iaith Gymraeg drwy’r fenter gyffrous hon ar y wefan.
"Mae’n hanfodol bwysig i URC adlewyrchu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn niwylliant Cymru fywiog, fodern.
"Rygbi yw’n camp genedlaethol ac rydym yn falch i gynrychioli Cymru gyfan sy’n golygu’n bod yn cydnabod ein dyletswydd i dalu parch llawn i’r iaith Gymraeg.
"Rwy’n dymuno diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru am gefnogi’r gweithgarwch hwn gyda’r cymorth a’r cyngor sydd wedi arwain at gwblhau’r rhan hon o’n polisi.
"Mae miliynau o bobl yn ymweld â’n gwefan bob blwyddyn, felly mae’n hanfodol bwysig eu bod yn cael darlun cywir o’r lle sydd gan yr iaith Gymraeg yn ein diwylliant a’n bywyd."
Meddai Philip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, "Mae Cymru’n genedl llawn angerdd. Rydym ni ar dân dros chwaraeon a rygbi yn ogystal â’n treftadaeth gyfoethog a’n hiaith. Mae’n naturiol ein bod ni am weld chwaraeon yn croesawu pawb yng Nghymru. Bu’n bleser cael cefnogi URC yn y prosiect hwn a’r gobaith yw y bydd pobl Cymru yn ei fwynhau."
Meddai Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru: "Rwy’n falch bod URC wedi gwella’i darpariaeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg drwy gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar ei gwefan. Rwy’ hefyd yn croesawu ymroddiad URC i ddal ati i gynyddu’r cynnwys i’r dyfodol."
"Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn holi barn y cyhoedd ar y camau sydd eu hangen i gyrraedd ein nod o greu Cymru wir ddwyieithog ac mae URC yn esiampl bellach o fudiad yn y sector breifat yn gwneud mwy o ddarpariaeth o’r iaith Gymraeg fel rhan o’i gweithgareddau. Hoffwn annog sefydliadau eraill i ddilyn esiampl URC."