PÊL DROED AR LEFEL GYFFREDIN YN SICRHAU HWB ARIANNOL GAN Y LOTERI

10 Tach 2009

Bydd aelodau o CPD Mini ac Iau Parc Maesteg yn elwa o fanteision buddsoddiad ariannol yn iechyd y rhanbarth, wedi cyhoeddiad heddiw bod cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru am gyfrannu £820.00 at Ddatblygu Hyfforddwyr yno.

Mae’r Gist Gymunedol, cynllun sy’n dathlu ei ben blwydd yn 10 oed eleni, yn gynllun grantiau gan y Loteri Genedlaethol a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru, gyda chefnogaeth leol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ei ddiben yw annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn amlach.

Ers ei sefydlu yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n drwm mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Yn ddiweddar, mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi codi lefel y grant sydd ar gael. Mae’r sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru’n gallu derbyn hyd at £1000.00 yn awr ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis ac mae Datblygu Hyfforddwyr drwy gyfrwng Dyfarniadau Arweinwyr Iau a Hŷn yn CPDA Mini ac Iau Parc Maesteg yn un o’r prosiectau diweddaraf i elwa.

A thrwy ffrwyno’r grym i ddenu sydd gan glybiau chwaraeon yn arbennig yn y gymuned leol, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynnig hwb ychwanegol iddynt yn awr drwy eu gwneud yn gymwys i dderbyn dau ddyfarniad gan y Gist Gymunedol oddi mewn i bob blwyddyn ariannol.

Bydd y grant hwn yn datblygu’r adrannau Mini ac Iau yn CPD Parc Maesteg drwy gyllido hyfforddiant yr aelodau hŷn i ennill Dyfarniadau Arweinwyr, Golgeidwaid a Swyddogion Cymorth Cyntaf CBDC. Heyd, mae’r clwb yn gobeithio cynorthwyo’r chwaraewyr iau i ennill eu Dyfarniadau Arweinwyr Iau.

Bydd hyn yn ei dro’n cynnig mwy o hyfforddwyr er mwyn gallu ehangu nifer y grwpiau oedran a chynyddu nifer y plant sy’n cymryd rhan mewn pêl droed yng nghymuned Maesteg.

Meddai Lee Flay, Cadeirydd yr Adran Mini ac Iau / Mentor yr Arweinwyr Iau:

"Mae Adran Mini ac Iau Parc Maesteg yn dymuno diolch yn ddidwyll i Gyngor Chwaraeon Cymru am y buddsoddiad hwn mewn datblygu hyfforddiant. Rydym wedi cyflwyno tri grŵp oedran newydd y tymor hwn, sef deugain a phump o chwaraewyr newydd yn ychwanegol at y saith deg a oedd eisoes yn chwarae ar lefelau amrywiol."

"Ni ellir gorbwysleisio pa mor bwysig yw hyfforddwyr da wrth ddatblygu chwaraewyr ieuainc. Rydym yn gobeithio datblygu hyfforddwyr newydd a’r hyfforddwyr presennol drwy gyfrwng y rhaglen addysgu hyfforddwyr, er mwyn gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth mewn hyfforddiant. Ynghyd â hyfforddiant i oedolion, ar hyn o bryd mae gennym bedwar o’n chwaraewyr dan 14 oed yn cymryd rhan yn y Dyfarniad Arweinwyr Ieuainc. Y manteision yw annog cyfrifoldeb a meithrin hunanhyder."

Mae clybiau chwaraeon yn rhan allweddol o fywyd cymunedol. Mae ganddynt hwy, a’r bobl sydd y tu ôl i’r llenni, gyfle i ganfod a mowldio talent ifanc i fod yn sêr y dyfodol, gan feithrin ynddynt werthoedd craidd fel gwaith caled, hunan-gred ac – yn fwy na dim – mwynhad wrth gymryd rhan yn y gamp.

Mae cyllid y Gist Gymunedol yn helpu i greu a chefnogi cyfleoedd chwaraeon newydd ar gyfer pobl ieuainc ledled Cymru gyfan. Gellir defnyddio’r cyllid i hyfforddi hyfforddwyr a gweinyddwyr, i brynu offer ar raddfa fechan ar gyfer datblygu adrannau iau, i sefydlu strwythurau cystadlu ar gyfer ieuenctid yn y gymuned, i dalu am gostau sefydlu clybiau iau ac i gefnogi digwyddiadau a gwyliau chwaraeon.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod ac mae’n parhau i fod yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Cymru. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn sicrhau ei fod yn fwy effeithiol fyth.

"Yn aml iawn, y syniadau symlaf sy’n sicrhau’r effaith fwyaf. Gan y panelau ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru mae cyllideb y cynllun ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am y syniadau a’r prosiectau blaengar sydd gennych er mwyn cael mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn amlach."