Galw ar Brydeinwyr Tal a Thalentog i roi cynnig arni ar gyfer Gemau Olympaidd 2016!
21 Hyd 2009
Mae angen Prydeinwyr Tal a Thalentog i roi cynnig arni ar gyfer Gemau Olympaidd 2016! Mae ymgyrch chwilio am dalent genedlaethol yn galw ar ddynion athletaidd sydd dros 6’3" o daldra a merched sydd dros 5’11" i wneud cais am gynrychioli Prydain Fawr yn Rio de Janeiro. Mae ganddynt tan yr 16eg o Dachwedd 2009 i wneud hynny drwy gyfrwng www.uksport.gov.uk/talent.
Mae Talent 2016 yn ymgyrch chwilio genedlaethol sy’n ceisio canfod athletwyr talentog sydd â’r potensial i gystadlu yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio. Tal a Thalentog yw’r ymgyrch gyntaf mewn cyfres o ymgyrchoedd tebyg sy’n chwilio am ddynion a merched eithriadol dal a allai gael llwyddiant mewn chwaraeon lle gall taldra fod o fantais fawr i athletwyr, fel rhwyfo a phêl fasged.
Gwahoddir yr ymgeiswyr i gofrestru ar gyfer a phrofi nifer o chwaraeon, i weld a oes ganddynt botensial.
Os ydych chi neu unrhyw un rydych yn ei adnabod ...
- Rhwng 15 a 22 oed
- Yn eithriadol dal (dynion dros 190cm a merched dros 180cm)
- Yn cystadlu mewn unrhyw gamp ar lefel sirol / ranbarthol fel LLEIAFSWM
- Yn gyflym, yn ystwyth ac yn fedrus A / NEU’N heini, pwerus a chryf
- Yn ddigon cryf yn feddyliol ac yn gystadleuol iawn
- Eisiau cael cyfle oes i fod yn rhan o garfan chwaraeon elitaidd Prydain
… yna rydym eisiau clywed gennych chi!
Er mwyn cofrestru ar gyfer Talent 2016: Tal a Thalentog neu i gofrestru eu diddordeb ar gyfer ymgyrchoedd Talent 2016 yn y dyfodol, dylai ymgeiswyr gyflwyno eu manylion cyn 16 Tachwedd 2009 yn www.uksport.gov.uk/talent