CANOLFAN RAGORIAETH GOLFF OLAF CYMRU’N AGOR YM MACHYNYS
30 Medi 2009
Wrth i’r genedl baratoi ar gyfer Cwpan Ryder sydd ddim ond 12 mis i ffwrdd erbyn hyn, mae Academi Golff fodern, newydd sbon, gwerth miliynau o bunnoedd wedi agor ei drysau i’r cyhoedd yng Nghlwb Golff a Sba Machynys, Llanelli yn Sir Gaerfyrddin.
Mae wedi cael ei dynodi’n ‘Ganolfan Ragoriaeth Ranbarthol Golff Cymru’ a dyma’r darn olaf yn y jig-sô i gwblhau’r rhwydwaith strategol o bump o gyfleusterau allweddol ledled Cymru. Derbyniodd pedair o’r canolfannau gyllid y Loteri Genedlaethol gan Gyngor Chwaraeon Cymru a’r pumed gyllid gan Gwpan Ryder Cymru mewn ymgais i roi hwb pellach i lwyddiant golff yng Nghymru.
Meddai Jim Anderson, Cyfarwyddwr Rheoli Clwb Golff a Sba Penrhyn Machynys:
"Rydym wrth ein boddau gyda’r ffordd y mae’r cyfleusterau yng Nghanolfan Ragoriaeth Ranbarthol Undeb Golff Cymru wedi dod at ei gilydd. Rydym yn ddiolchgar i Machynys Construction am safon yr adeilad, sydd wedi’i godi yn unol â’r gyllideb ac ar amser. Hwn yw’r unig gyfleuster o’i fath yn y DG gyda lawntiau targed glaswellt go iawn 350m2 ac rydym yn falch o allu brolio’r lawnt bytio dan do fwyaf ym Mhrydain.
"Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gymorth a chyllid gan Gyngor Chwaraeon Cymru ac Undeb Golff Cymru. Mae hwn yn gyfleuster arbennig iawn ar gyfer gwella gêm y prif olffwyr yn y wlad ond hefyd mae yma i ddechreuwyr a bydd yn rhan o’n rhaglen bresennol i ysgolion lleol, lle mae gennym 10 o ysgolion cynradd ac uwchradd lleol yn dysgu chwarae golff dan gyfarwyddyd ein saith Chwaraewr Golff Proffesiynol ym Machynys fel rhan o’u cwricwlwm".
Meddai Philip Carling – Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru:
"Mae’r Cyngor Chwaraeon yn ymroddedig i helpu golffwyr i gystadlu ar y lefel uchaf un a dyna pam ein bod wedi buddsoddi bron i £1 miliwn o gyllid i gyd mewn datblygu cyfleusterau yn Llangefni, Clays yn Wrecsam, Bro Morgannwg a nawr Penrhyn Machynys.
"Gall Cymru frolio nifer o olffwyr o safon byd eisoes ac rwy’n siwr y bydd y cyfleusterau hyn o gymorth i adeiladu ar y llwyddiant hwn. Hoffwn ganmol Machynys ar fod yn ased bendigedig i golff elitaidd a chymunedol."
Mae’r cyfleuster yn cynnwys maes golff cyhoeddus sy’n cynnwys y lawnt bytio dan do fwyaf yn y DG, 21 o faeau llifoleuedig a maes ymarfer 380 llath o hyd sy’n cynnwys tair lawnt darged maint llawn yn cyrraedd safon USGA, yr unig lawntiau targed glaswellt go iawn i’w cael yn unrhyw le. Ceir ystafell hyfforddi bwrpasol ar y safle hefyd.
Fel rhan o’r dathliadau, arweiniodd aelod o garfan Llewod Prydain, Stephen Jones, a chyn-aelod o’r Llewod, Derek Quinnell, gae llawn o sêr – a oedd yn cynnwys pêl droedwyr Abertawe a Llanelli – mewn cystadleuaeth dreif hir yn erbyn y rhai wrth y llyw yng Nghyngor Chwaraeon Cymru, Cwpan Ryder Cymru, Undeb Golff Cymru a Datblygu Golff Cymru.
Roedd cyn-gapten Cwpan Ryder a llywydd y clwb, Brian Huggett MBE, wrth law hefyd, ynghyd â’r chwaraewr yng Nghwpan Walker, Nigel Edwards, i ddangos beth yw manteision y cyfleusterau gêm fer sydd ar gael:
"Mae’r cwrs golff a chyfleusterau’r clwb ym Machynys eisoes yn arbennig iawn ac mae’r Academi Golff ragorol hon yn cwblhau’r pecyn cyflawn. Mae o safon byd yn sicr," eglurodd Huggett.
A gyda dim ond 12 mis i fynd nes bod rhai o olffwyr gorau’r byd yn dod i Gampws y Celtic Manor, cred John Jermine – Cadeirydd Cwpan Ryder Cymru – bod cwblhau’r Ganolfan Ragoriaeth ddiweddaraf hon yn arwydd unwaith yn rhagor o’r dreftadaeth hirhoedlog y mae Cymru’n ei chreu:
Meddai John Jermine, Cadeirydd Cwpan Ryder Cymru, "Yn draddodiadol, mae De Orllewin Cymru wedi bod yn fagwrfa i olffwyr arbennig iawn a bydd y cyfleuster o safon byd yma o gymorth i genedlaethau’r dyfodol gyrraedd eu llawn botensial. Gyda phum Canolfan Ragoriaeth a 41 o gyfleusterau talu a chwarae newydd fel rhan o Gronfa Dreftadaeth CRC ledled Cymru, bydd gan chwaraewyr ar bob lefel rywle i chwarae golff a gwella eu gêm."