DYFARNU STATWS CANOLFAN RAGORIAETH I GLWB GOLFF LLANGEFNI

21 Medi 2009

Mae Clwb Golff Llangefni wedi derbyn statws Canolfan Ragoriaeth Undeb Golff Cymru ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru, wedi cael hwb ariannol gan y Loteri Genedlaethol drwy gyfrwng Cyngor Chwaraeon Cymru.

Mae cyllid o ychydig dros £225,000 wedi arwain at weddnewid y cyfleusterau, yn cynnwys maes ymarfer 16 bae, 250 llath gyda llifoleuadau, tair lawnt ymarfer targed artiffisial, tyllau a bynceri ymarfer ar gwrs byr a thri thwll dros dro ar gyfer hyfforddi golffwyr ieuainc talentog yr ardal. Mae’r datblygiad yn rhan o gynllun cyfleusterau cenedlaethol a rhanbarthol Undeb Golff Cymru, Making a Move.

Mae’r clwb yng Ngogledd Cymru’n ymuno yn awr â Chanolfan Golff Clays yn Wrecsam; Gwesty a Champws Golff a Sba Y Vale ym Mro Morgannwg a’r Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol ar Gampws y Celtic Manor yng Nghasnewydd fel rhan o rwydwaith o ganolfannau rhagoriaeth. Darn olaf y jig-sô yw’r ganolfan yng Nghlwb Golff a Gwledig Penrhyn Machynys yn Sir Gaerfyrddin, a fydd yn agor ddiwedd y mis. Bydd yn gwneud cyfanswm y buddsoddiad gan y Cyngor Chwaraeon yn fwy na £920,000.

Defnyddir y cyfleuster yn Llangefni fel lleoliad gydol y flwyddyn ar gyfer sesiynau sgwad Gogledd Orllewin Cymru ac fel cyfleuster i helpu i gynyddu nifer y bobl ieuainc sy’n chwarae golff. Bydd y maes ymarfer, y lawntiau ymarfer targed a’r tyllau hyfforddi’n galluogi i sesiynau hyfforddi arbenigol gael eu cynnal ar gyfer sgwadiau elitaidd ac i ddarparu gwersi i bobl leol, yn enwedig yn y ward Cymunedau yn Gyntaf gyfagos, sef Ward Tudur.

Meddai Swyddog Datblygu Golff gyda Datblygu Golff Cymru, Dilwyn Griffiths,

"Mae golff yng Nghymru wedi datblygu’n eithriadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn parhau â’n gwaith o godi safonau ymhellach yng Nghymru. Mae hyn yn golygu meithrin a chefnogi ein chwaraewyr elitaidd ac addawol a hefyd sicrhau bod y gêm yn agored i bawb drwy gynnig cyfleoedd rhad i bawb fwynhau’r gêm.

"Mae’r datblygiad yng Nghlwb Golff Llangefni’n enghraifft wych o sut allwn ni gyflawni hyn. Drwy ddarparu cyfleusterau sy’n codi safonau yn nau begwn y gamp, byddwn yn sicrhau bod golff yng Nghymru’n parhau’n rym gwirioneddol."

Meddai Aelod o Gyngor Chwaraeon Cymru o Ynys Môn, Hywel Meredydd Davies:

"Mae dyfodol golff yng Nghymru’n edrych yn ddisglair iawn wrth i fentrau newydd calonogol fel y fenter hon ddarogan amseroedd da. Mae Cymru eisoes yn gwneud yn well na’r disgwyl yn y rhengoedd proffesiynol a thrwy gyfrwng cyfleusterau o safon uchel fel Canolfan Ragoriaeth Llangefni rydym yn gobeithio darparu’r fframwaith gorau posibl i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o olffwyr amatur ac elitaidd.

"Bydd cynnal Cwpan Ryder Cymru am y tro cyntaf erioed yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd yn 2010 yn ysbrydoli llawer o olffwyr newydd, gobeithio, i ymddiddori yn y gamp yng Nghymru. A gyda mwy na 200 o gyrsiau mewn 185 lleoliad ledled y wlad, mae Cymru mewn sefyllfa gref i ddarparu ar gyfer y galw, gan sicrhau bod cymaint ag y bo modd o bobl yn cael cyfle i fwynhau’r gêm."

Meddai Cadeirydd Cwpan Ryder Cymru, John Jermine:

"Fel y wlad sy’n cynnal Cwpan Ryder 2010, y nod yw sefydlu treftadaeth gadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o olffwyr yng Nghymru ac mae Cwpan Ryder Cymru, ynghyd â’i phartneriaid, yn cynnwys Cyngor Chwaraeon Cymru, yn ymroddedig i wneud y gêm yn fwy agored a hwylus i bawb sydd eisiau ei chwarae. Bydd y pum Canolfan Ragoriaeth a’r 41 o brosiectau talu a chwarae a gyllidir gan Gronfa Treftadaeth Cwpan Ryder Cymru, yn darparu’r cyfleusterau ymarfer a hyfforddi gorau un i olffwyr o bob oedran a gallu ledled Cymru gyfan.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Simon Grant yng Nghyngor Chwaraeon Cymru ar 029 2033 8366 neu simon.grant@scw.org.uk