NEWID ER GWELL YN Y GANOLFAN HAMDDEN
12 Awst 2009
Mae ‘pentref newid’ pwll nofio modern newydd gwerth £300,000 yng Nghanolfan Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei agor yn swyddogol.
Mae’r nofwyr wedi bod yn mwynhau’r cyfleusterau newydd am y 10 niwrnod diwethaf, ond heddiw (dydd Mercher 12 Awst), agorwyd y pentref newid yn swyddogol gan y Cynghorydd Lyn Morgan, yr Aelod Cabinet dros Les.
Yn ymuno ag ef roedd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Mel Nott, Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Jeff Tildesley a chynrychiolwyr o Gyngor Chwaraeon Cymru.
Hefyd roedd y gŵr a aned ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Lee Byrne, cefnwr Cymru, Llewod Prydain ac Iwerddon a’r Gweilch, a chyd-aelod iddo yng ngharfannau Cymru, Llewod Prydain ac Iwerddon a’r Gweilch, y prop Adam Jones, yn wahoddedigion arbennig.
Cafodd y gwesteion arbennig i gyd wahoddiad i fynd o amgylch y ganolfan ar ei newydd wedd. Mae’r gwaith wedi cymryd 20 wythnos i’w gwblhau ac mae wedi’i ariannu ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Chwaraeon Cymru.
Bellach mae’n cynnig lleoliad eang gydag offer rhagorol i nofwyr newid, cael cawod a chadw eu heiddo.
Meddai’r Cynghoryddd Morgan: "Rwy’n credu bod pawb yn hynod hapus gyda’r cyfleusterau newydd. Rwyf wedi clywed adborth eithriadol bositif gan y bobl sy’n defnyddio’r pentref newid ac mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r rhai sy’n dod i’r pwll yng Nghanolfan Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n brofiad llawer mwy pleserus erbyn hyn.
"Mae’r cwsmeriaid a’r staff wedi bod yn eithriadol amyneddgar drwy gydol y gwaith adnewyddu. Rwy’n credu y gallwn ni i gyd gytuno ei bod wedi bod yn werth aros am hyn. Diolchwn yn gynnes iawn i’n partneriaid i gyd yn Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yng Nghyngor Chwaraeon Cymru am eu cefnogaeth hael wrth ein helpu i gyllido’r prosiect pwysig hwn.
"Mae’n brawf o’n hymroddiad ar y cyd i ddarparu i bobl Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfleoedd o’r safon uchaf i fyw’n egnïol ac iach ac mae’n cydnabod pwysigrwydd nofio i bawb. Hefyd, mae’r buddsoddiad hwn yn rhan o’n gweledigaeth yn y tymor hwy, sef gweld pobl leol yn gallu gwneud defnydd o’r gwasanaethau maent eu hangen er mwyn gwella eu hiechyd a’u lles ac er mwyn creu cymdeithas fwy egnïol.
Meddai Philip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, am fuddsoddiad CChC o £185,000: "Y gwaith adnewyddu hwn yng Nghanolfan Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr yw’r diweddaraf mewn rhestr faith o brosiectau sydd wedi’u datblygu ledled Cymru a byddant o fudd aruthrol i’r gymuned leol ac i Ben-y-bont ar Ogwr yn gyffredinol. Dylai pawb gael cyfle i nofio a chadw’n heini’n gorfforol ac rwy’n hyderus y bydd y cyfleusterau newydd hyn yn cymell nid yn unig pobl gydag anableddau ond hefyd pobl ieuainc ac oedolion."
Roedd Lee Byrne yn frwd iawn ei ganmoliaeth i’r cyfleuster newydd hefyd.
Meddai: "Roeddwn yn arfer dod i’r Ganolfan am tua 10 mlynedd ac rwy’n cofio bod yr ystafelloedd newid yn eithaf bach ac felly rwy’n gallu gweld gwelliant mawr. Mae mor bwysig cael cyfleusterau rhagorol fel y rhain. Mae’n beth mor dda i’r fwrdeistref."
Meddai Adam Jones wedyn: "Mae hwn yn newyddion gwych i’r plant lleol. Mae cadw’n heini’n hanfodol y dyddiau hyn ac mae’n bwysig ein bod yn cynnig cyfleusterau maent yn dymuno eu defnyddio."
Torrodd y Cynghorydd Morgan rhuban hefyd i ddathlu’r offer Technogym newydd sydd yng Nghanolfan Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â’r meddalwedd cyfrifiadurol Wellness a’r cyfleusterau wedi’u hadnewyddu. Mae’r cyfleusterau hyn ar gael hefyd yng Nghanolfan Chwaraeon Maesteg ac ym Mhwll a Chanolfan Ffitrwydd Ynysawdre.
Mae’r broses gyflwyno newydd ar ffurf pedwar cam yn galluogi i staff arbenigol gyfateb eu ffordd o fyw unigol gyda’r math a’r maint o ymarfer a argymhellir. Bydd pob defnyddiwr yn derbyn allweddi Wellness penodol y gellir eu gosod yn yr offer newydd ar gyfer rhaglen ymarfer bersonol sy’n cofnodi cynnydd ac yn nodi’r gwelliannau mewn lefelau iechyd a ffitrwydd.
Bydd yr ymwelwyr yn gallu defnyddio eu hallweddi Wellness mewn unrhyw un o’r tri chyfleuster a gallant wylio eu cynnydd ar-lein drwy logio i mewn i www.bridgend.gov.uk
Hefyd, mae gan system newydd Wellness allu unigryw i reoli’n fwy effeithiol y cwsmeriaid a gyfeirir gan feddygon teulu a chwsmeriaid sy’n adfer wedi problemau cardiag, a gallant weithredu rhaglenni ffitrwydd ar gyfer unrhyw rai gyda gofynion arbennig a gweithio gyda grwpiau ysgol neu bobl ieuainc unigol.
ASTUDIAETH ACHOS:
Mae Georgia Stevens sy’n 61 oed ac yn dod o Litchard yn nofiwr cynnar yn y bore yn y Ganolfan Hamdden. Mae hi hefyd wedi cofrestru’n anabl.
Meddai Georgia: "Mae’r pentref newid newydd yn rhagorol. Mae’r glendid yn ardderchog a’r cyfleusterau’n wych. Mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth wrth ddefnyddio’r pwll. Hefyd, mae’n rhaid i mi ddweud bod y staff wedi gwneud popeth o fewn eu gallu yn ystod y cyfnod o newid i sicrhau gofod addas i ni a nawr bod yr holl waith adnewyddu ar ben, mae’n ffantastig. Mae’n gyfleuster rhagorol i bobl anabl ac rwy’n hapus iawn gyda’r modd yr ymgynghorwyd â phobl fel fi drwy gydol y broses, oherwydd nawr mae gennym gyfleusterau y bu meddwl mawr yn eu cylch cyn eu creu. Da iawn."