Gofynion Dilysu a Gwahardd Newydd
15 Rhag 2009
Briff CPSU, Gorffennaf 30ain 2009
Amserlen adolygedig ar gyfer y Cynllun Dilysu a Gwahardd
O fis Tachwedd 2010 ymlaen bydd yn orfodol i’r rhai sy’n dechrau cynnal gweithgarwch a reolir gyda phlant neu oedolion bregus fod wedi cofrestru gyda’r ISA cyn iddynt ddechrau arni. Bydd y gofynion ar gyfer y gweithlu presennol (cyflogedig a digyflog) sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion bregus nad ydynt yn dechrau ar weithgarwch newydd a reolir yn cael ei gyflwyno ar ffurf camau dros gyfnod o 5 mlynedd.
Bydd y darpariaethau gwahardd newydd dan y Ddeddf yn dod i rym, gan ymestyn yn arwyddocaol yr amrywiaeth o weithgareddau a gweithleoedd ble gellir gwahardd unigolion ohonynt i gynnwys yr holl weithgarwch a reolir, fel a ddiffinnir gan y Ddeddf.
Mae gweithgarwch a reolir gyda phlant yn cynnwys gwaith, cyflogedig neu ddigyflog, yn aml neu’n ddwys, i ddarparu:
- hyfforddiant, arweiniad neu gyfarwyddyd
- gofal neu oruchwyliaeth
- cyngor neu gyfarwyddyd ynghylch lles corfforol, emosiynol neu addysgol plant
- triniaeth neu therapi
- cludiant penodol i blant.
Hefyd, mae unrhyw gyswllt rheolaidd neu ddwys gyda phlant mewn mannau penodol (e.e. ysgolion, cartrefi plant, eiddo gofal plant perthnasol) yn weithgarwch a reolir.
Nid yw clybiau chwaraeon na chanolfannau hamdden yn fannau penodol ond mae gweithgareddau chwaraeon a drefnir ac a gynhelir gan glybiau lleol y CRhC neu ddarparwyr eraill ac a gynhelir mewn ysgol / ar dir neu eiddo ysgol yn dod oddi mewn i’r diffiniad penodol o le.
Mae diffiniad tebyg yn berthnasol mewn perthynas â gweithgarwch a reolir a dargedir yn benodol at oedolion bregus. Diffinnir ‘oedolion bregus’ yn glir yn y ddeddfwriaeth a byddent yn cynnwys achosion lle trefnir gweithgareddau chwaraeon yn benodol ar gyfer grŵp gydag anableddau. Ni fyddai’n cynnwys sefyllfaoedd lle mae oedolyn sy’n digwydd bod ag anabledd yn cymryd rhan mewn gweithgarwch chwaraeon cyffredinol sydd wedi’i dargedu at rai heb anabledd.
Hefyd, o’r 12fed Hydref 2009 ymlaen, ni fydd ceisiadau ar gyfer profion safonol y BCT bellach yn datgelu gwybodaeth a gedwir am y rhai wedi’u gwahardd o weithio gyda phlant a / neu oedolion bregus. Felly, mae’n rhaid i gydweithwyr sydd â hawl i wirio’r ddwy restr waharddedig a reolir gan yr ISA, sy’n cynnwys plant ac oedolion bregus (POCA a POVA), wneud cais am ddatgeliad Uwch y BCT.
Cyfarwyddyd Penodol i’r Sector
Mae DCMS yn gyfrifol am ysgrifennu cyfarwyddyd penodol i sector, gan weithio’n agos gyda CPSU, DCSF a’r Swyddfa Gartref er mwyn sicrhau bod y cyfarwyddyd terfynol yn adlewyrchu’r pwyntiau a wnaed gan y sector. Rydym am i’r cyfarwyddyd fod yn ddogfen hynod ddefnyddiol, sy’n dangos dealltwriaeth o’r tirlun chwaraeon a hamdden ac a fydd yn helpu’r sector i ddeall a gweithredu’r gofynion newydd yn effeithiol ac yn briodol.
Y meysydd allweddol i’w cynnwys yn y cyfarwyddyd:
- Cyfeiriad at y gofynion cyffredinol
- Y gwahaniaethau rhwng profion y BCT a chofrestru gyda’r ISA
- Beth sy’n creu gweithgarwch a reolir (gyda phlant neu oedolion bregus)
- Eithriadau
- Gweithgareddau oedran agored
- Sefyllfaoedd chwaraeon
- Cyfranogiad achlysurol gan blant a phobl ieuainc mewn gweithgareddau chwaraeon
- Cyfrifoldeb ac atebolrwydd a Darparwyr Gweithgarwch Cofrestredig
- Dyletswydd i gyfeirio at y cynllun
Ategir y cyfarwyddyd gan astudiaethau achos.
Am wybodaeth bellach am Ddilysu a Gwahardd, ewch i: www.isa-gov.org.uk
Ar gyfer pecynnau cyfathrebu, ewch i:
Am ddogfen yn cynnwys cwestiynau a holir yn aml, ewch i:
http://www.isa-gov.org/default.aspx?page=395
Dilysu a Gwahardd a’r Sector Chwaraeon: Briff y CPSU, Gorffennaf 2009
http://www.nspcc.org.uk/Inform/cpsu/NewsAndEvents/news_and_events_wda67379.html